Cymuned eisiau bod y cyntaf i fod yn ddi-blastig

  • Cyhoeddwyd
AberporthFfynhonnell y llun, Google

Mae pentref yng Ngheredigion wedi gosod nod i fod y gymuned gyntaf yng Nghymru i fod yn ddi-blastig.

Mae pobl Aberporth wedi sefydlu pwyllgor i geisio taro'u targed ac mae busnesau lleol eisoes wedi mabwysiadu'r cynllun.

Fe wnaeth grŵp Plastic Free Aberporth gynnal eu cyfarfod cyntaf yr wythnos diwethaf, ac mae'r cyngor cymuned a'r ysgol leol hefyd yn ei gefnogi.

Mae'r pwyllgor yn gobeithio cynnal digwyddiadau codi arian yn fuan i ariannu ymgyrch gyda phosteri i sicrhau bod pob un o 1,100 o drigolion y gymuned yn ymwybodol o'r fenter.

Poteli gwydr

Mae'r dafarn leol, y Ship, wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwellt a photeli plastig tra bo'r caffi, Cwtch Glanmordy am ddechrau defnyddio llestri pren ac annog cwsmeriaid i ddod â'u cwpanau coffi eu hunain.

Mae siop y pentref hefyd wedi penderfynu mynd 'nôl i werthu llefrith o boteli gwydr yn hytrach na rhai plastig, gan eu hailgylchu ar ôl eu defnyddio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gail Tudor sefydlu'r pwyllgor ar ôl taith o amgylch arfordir Prydain yn casglu plastig

Dwy ddynes leol - Gail Tudor a Gilly Llewelyn - sydd y tu ôl i'r syniad.

Fe wnaeth Ms Tudor, 55, sefydlu'r pwyllgor ar ôl teithio o amgylch arfordir Prydain am 10 diwrnod yn casglu plastig a gweld ei effaith ar natur a bywyd gwyllt.

"Dydyn ni ddim am gael gwared ar blastig yn llwyr, ond yr hyn rydyn ni'n gobeithio ei wneud yw cael gwared ar blastigion sydd i'w defnyddio unwaith yn unig, fel gwellt a chwpanau coffi," meddai.

"Mae angen i unigolion edrych ar beth y gallan nhw newid, ac wedyn busnesau, y gymuned leol a'r llywodraeth i edrych ar beth y gallan nhw wneud ar eu lefelau nhw."

'Ymgyrch positif'

Ychwanegodd Oliver Box, 42, mab perchnogion y Ship, ei fod wedi gweld effaith y cynllun yn barod.

"Mae nifer y bobl rwy'n ei weld yn cerdded ar hyd y traeth gyda bagiau yn casglu plastig a sbwriel eraill wir wedi cynyddu," meddai.

"Mae'r ymgyrch yn siŵr o fod yn beth positif os yw'n llwyddo i gael mwy o bobl yn meddwl am yr amgylchedd."