Marwolaeth Llanbedrog: Cyhuddo dau ddyn o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd
Bydd dau ddyn yn wynebu cyhuddiadau o ddynladdiad wedi i ddyn ifanc farw ar ôl cael ei saethu mewn maes parcio tafarn ym Mhen Llŷn.
Daeth swyddogion o hyd i gorff Peter Colwell, 18 oed o Gapel Uchaf, Clynnog Fawr ym maes parcio tafarn y Llong yn Llanbedrog yn oriau mân y bore ar 5 Chwefror eleni.
Fe ddaeth archwiliad post mortem i'r casgliad fod Mr Colwell wedi marw o un ergyd gwn i'w ben.
Roedd pedwar dyn eisoes wedi'u cyhuddo o droseddau yn ymwneud â drylliau, ond mae'r erlyniad nawr wedi penderfynu cyhuddo dau o'r rheiny o ddynladdiad.
Cafodd Benjamin Fitzsimons, 22 o Bwllheli, a Ben Wilson, 28 o Sir Gaergrawnt, eu cyhuddo'n swyddogol yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun.
Mae'r ddau ddiffynnydd arall - Harry Butler, 22, a Michael Fitzsimons, 24, o Bwllheli - yn parhau wedi'u cyhuddo o droseddau'n ymwneud â drylliau.
Ni wnaeth yr un o'r dynion gyflwyno ple.
Cafodd y pedwar eu hail-ryddhau ar fechnïaeth ar ôl ymddangos yn y llys ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2017