Dim estyniad i benderfynu ar bensiwn Tata
- Cyhoeddwyd
Ni fydd y cyfnod i weithwyr Tata wneud penderfyniad ar ddyfodol eu cynllun pensiwn yn cael ei ymestyn, yn ôl cadeirydd ymddiriedolwyr y cynllun, Allan Johnston.
Mae gan 122,000 o weithwyr tan ddydd Gwener i benderfynu unai aros gyda'r cynllun presennol - fydd yn rhan o gronfa gwarchod pensiynau - neu symud i gynllun Pensiwn Dur Prydain.
Mae gan weithwyr hefyd yr opsiwn i drosglwyddo i gynllun pensiwn personol.
Yn ddiweddar mae pryderon ynglŷn â'r amserlen a'r cyngor ariannol gwael sydd wedi'i gynnig wedi arwain at rai ASau yn galw i'r cyfnod gael ei ymestyn.
Ond dywedodd Mr Johnston na fydd hynny'n bosib, gan y bydd unrhyw oedi yn arwain at anawsterau yn y dyfodol allai olygu bod y cynllun pensiwn yn troi'n anymarferol.
Mae dros 25,000 o aelodau o'r cynllun heb ymateb gyda'u penderfyniad, ac os na fydd penderfyniad erbyn 22 Rhagfyr, bydd y pensiynau yn trosglwyddo'n awtomatig i'r gronfa gwarchod pensiynau.
Ychwanegodd Mr Johnston bod hyn yn codi pryderon, gan bod y cynnig i ymuno gyda chynllun Pensiwn Dur Prydain yn well opsiwn i 99% o bobl.
Mae Mr Johnston yn derbyn fod yr ymddiriedolwyr wedi methu rhagweld byddai nifer uchel o'r gweithwyr wedi dewis i drosglwyddo allan o'r cynllun pensiwn, a'r pwysau mae hynny yn ei osod ar y llinellau cymorth.
Fe wnaeth ymddiheuro am yr oedi a'r rhwystredigaeth mae hynny wedi'i achosi.
Mae pryderon wedi'u codi wedi i nifer fawr o ymgynghorwyr ariannol gynnig eu gwasanaeth i weithwyr dur yn y DU.
Ar ôl ymyrraeth gan Awdurdod Ymddygiad Ariannol, mae nifer o gwmnïau ymgynghorol wedi cael eu gwahardd rhag rhoi cyngor ar bensiynau.
Mae'r BBC ar ddeall bod Ymddiriedolwyr y cynllun yn gosod proses fydd yn caniatáu i weithwyr sydd wedi defnyddio'r cwmnïau i ddileu unrhyw gynigion sydd ar y gweill i dynnu allan o'r cynllun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd11 Awst 2017