Leon Britton i fod yn rheolwr dros dro ar Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau mai Leon Britton fydd yn cymryd rheolaeth dros dro ar y tîm yn dilyn diswyddiad Paul Clement.
Cafodd Clement y sac nos Fercher, gyda'r clwb ar waelod yr Uwch Gynghrair ar ôl ennill dim ond tair o'u 18 gêm y tymor yma.
Fe wnaeth Britton, sydd wedi chwarae pedair gwaith y tymor yma, dderbyn rôl hyfforddi rhan amser gyda'r clwb yn gynharach eleni.
Fo, yn ogystal â hyfforddwyr y tîm dan-23 Gary Richards a Cameron Toshack, fydd yn gyfrifol am y garfan ar gyfer ymweliad Crystal Palace ddydd Sadwrn, wrth i'r clwb barhau i chwilio am reolwr parhaol.
Mae'n debyg nad yw cyn-reolwr West Brom, Tony Pulis yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd, ac mae ei gyd-Gymro Ryan Giggs hefyd wedi dweud nad yw wedi bod mewn cysylltiad â'r clwb.
Ymysg yr enwau eraill sydd wedi eu cysylltu â'r rôl mae sawl cyn-reolwr yn yr Uwch Gynghrair gan gynnwys Ronald Koeman, Louis van Gaal, Slaven Bilic ac Aitor Karanka.
Dadansoddiad ein gohebydd chwaraeon, Dafydd Pritchard:
Mae diswyddo rheolwyr nawr yn draddodiad Nadolig i glwb pêl-droed Abertawe.
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae rheolwr yr Elyrch - Paul Clement eleni - wedi gadael yn ystod mis Rhagfyr.
Unwaith eto, mae'r clwb ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr ac ond wedi ennill tair o'u 18 gêm y tymor yma.
Mae Clement yn haeddu ychydig o gydymdeimlad.
Cafodd ei benodi ym mis Ionawr pan oedd Abertawe ar waelod y tabl unwaith eto, ac fe drawsnewidiodd yr Elyrch wrth iddyn nhw osgoi disgyn i'r Bencampwriaeth.
Mae perchnogion y clwb yn awyddus i benodi rhywun a phrofiad o reoli yn yr Uwch Gynghrair ac mae enwau megis Slaven Bilic a Frank de Boer wedi eu crybwyll.
Ond am y tro, gwr sydd erioed wedi rheoli gêm - y chwaraewr-hyfforddwr Leon Britton - fydd wrth y llyw yn erbyn Crystal Palace bnawn Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2017