Pryder bod diffyg gwybodaeth am raddfa problem secstio
- Cyhoeddwyd
Dydyn ni "ddim yn gwybod maint y broblem" o gyfnewid negeseuon anweddus ymysg plant a phobl ifanc, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.
Daw sylwadau Sally Holland wrth i waith ymchwil gan raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ddarganfod nad oes system benodol i gofnodi achosion o secstio yng Nghymru.
Dros gyfnod y Nadolig, bydd nifer o blant a phobl ifanc wedi derbyn dyfeisiadau a theclynnau ar-lein newydd, fel ffôn, tabled neu gyfrifiadur.
Ond wrth i'r defnydd o'r rhyngrwyd gynyddu, mae pryder am y modd mae plant a phobl ifanc yn ei ddefnyddio'r dechnoleg.
Yn gynharach eleni, daeth i'r amlwg bod yr heddlu yng Nghymru wedi ymchwilio i achosion o blant mor ifanc ag wyth oed yn secstio.
'Dim cofnod'
Dywedodd Ms Holland ei bod yn poeni fod problem secstio yn fwy o lawer ymhlith plant a phobl ifanc na fyddai'r mwyafrif o bobl yn ei feddwl.
"'Da ni ddim yn gwybod maint y broblem o gwbl, ac wrth gwrs, dydi plant a phobl ifanc ddim yn rhannu pob digwyddiad gyda phobl eraill," meddai.
"Mae'r ysgolion hefyd yn delio gyda digwyddiadau weithiau heb eu cofnodi."
Roedd y Post Cyntaf wedi mynd ati i geisio darganfod beth yn union yw maint y broblem yng Nghymru.
Ond er bod heddluoedd yn cofnodi achosion sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw, does dim modd o gofnodi achosion eraill yn ganolog.
Er enghraifft, dim ond un cyngor sir - Ceredigion - sydd â ffigyrau penodol.
'Atal ac ymateb'
Yn ôl Ms Holland, mae'n gyfrifoldeb ar rieni ac athrawon i addysgu plant ynglŷn â'r hyn sy'n addas yn y byd ar-lein a'r byd go iawn.
"Dwi'n credu bod angen i ysgolion wneud dau beth; atal digwyddiadau ac ymateb i ddigwyddiadau," meddai.
"I atal digwyddiadau mae'n rhaid i ni addysgu plant a phobl ifanc am sut i gael perthnasau iach a diogel ar y we, ac oddi ar y we.
"Mae'n rhaid iddyn nhw allu adnabod beth sy'n berthynas iach a pha rhai sydd ddim yn iach hefyd."
Wrth i'r Comisiynydd Plant rybuddio ynglŷn â negeseuon anweddus, mae'r NSPCC yn rhybuddio nad oes digon o rieni'n rhoi gosodiadau preifatrwydd ar ddyfeisiadau er mwyn diogelu eu plant ar-lein.
Yn ôl eu hymchwil nhw, dyw 46% o rieni ddim yn newid gosodiadau i ddiogelu eu plant ar-lein - neu parental controls.
Galw am sgwrsio
Dywedodd Siân Regan, swyddog datblygu gyda'r NSPCC: "Fydden ni ddim yn gadael i'n plant fynd allan ar yr iard chwarae heb feddwl am sut i'w cadw nhw'n ddiogel - mae'n rhaid i ni feddwl fel yna ar-lein hefyd.
"Y peth symlaf i'w wneud yw sgwrsio amdano'n aml, ac yn gynnar.
"Fel y byddech chi'n gofyn i'ch plant beth maen nhw wedi bod yn eu wneud yn yr ysgol, gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw wedi bod yn eu wneud ar-lein.
"Gyda phwy maen nhw wedi bod yn siarad, pa apiau maen nhw wedi'u defnyddio, ar ba wefannau maen nhw wedi bod?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2017