Ymddiheuriad gweinidog am 'gamgymeriadau' credyd cynhwysol
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog o Lywodraeth y DU wedi ymddiheuro i bobl sydd wedi dioddef problemau oherwydd newidiadau mawr i'r drefn fudd-daliadau.
Ond fe fynnodd Damian Hinds, y gweinidog sy'n gyfrifol am gredyd cynhwysol, bod y system newydd yn helpu pobl i gael gwaith, fel oedd bwriad gwreiddiol y llywodraeth, er gwaethaf "camgymeriadau" tra'n ei gyflwyno.
Mae'r credyd yn cyfuno chwe budd-dal mewn un taliad misol.
Mae pryder wedi bod ynglŷn â phobl yn dioddef trafferthion ariannol wrth iddynt aros am arian.
Yn dilyn gwrthwynebiad o sawl cwr, fe gyhoeddodd y Canghellor Philip Hammond newidiadau yn y Gyllideb, gan gynnwys lleihau'r amser mae'n rhaid aros am daliad cyntaf o chwech i bum wythnos.
Mae banciau bwyd wedi cysylltu galw cynyddol am eu gwasanaethau i broblemau gyda chredyd cynhwysol.
Ond mewn cyfweliad â BBC Cymru, fe ddywedodd Mr Hinds bod taliadau ymlaen llaw ar gael er mwyn helpu pobl dros dro.
"Fel y dywedais, pan mae 'na gamgymeriadau - ac mae hynny'n digwydd rwy'n ofni mewn systemau budd-daliadau - mae'n ddrwg gennyf am hynny," meddai Mr Hinds.
"Roedd adegau pan oedd oedi yn y taliad cyntaf ac eto mae hynny'n rhywbeth y mae'n ddrwg gennyf amdano, ond rydyn ni wedi gwella.
"Rydym yn parhau i wella ac mae'r ystadegau yn awr yn llawer gwell nag yr oedden nhw rhai misoedd yn ôl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2017