Cyfle olaf i weithwyr Tata benderfynu ar bensiynau
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd o weithwyr a chyn-weithwyr dur yn gorfod penderfynu ddydd Gwener os ydyn nhw am ymuno â chynllun pensiwn newydd sydd wedi'i gymeradwyo gan gwmni Tata.
Fe fydd aelodau o'r Cynllun Pensiwn Dur Prydeinig (BSPS) yn trosglwyddo'n awtomatig i'r Gronfa Gwarchod Pensiynau os nad ydyn nhw'n gwneud cais i symud.
Bydd dogfennau sy'n cael eu postio ar y diwrnod olaf yn cael eu derbyn i'r cynllun.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae cynllun newydd Tata yn cynnig telerau gwell i weithwyr.
Mae tua 122,000 o aelodau o'r cynllun pensiwn.
Mae'r BSPS wedi dweud eu bod yn disgwyl i 20,000 o aelodau beidio ymateb erbyn y diwrnod olaf ddydd Gwener, a bydden nhw'n trosglwyddo'n awtomatig i'r Cynllun Gwarchod Pensiynau.
Dywedodd nad oes modd ymestyn y cyfnod oherwydd byddai'n costio £200m i'r cynllun pensiwn os na fydd y trosglwyddiadau wedi'u cyflawni erbyn diwedd Ionawr.
Mae gan weithwyr yr opsiwn hefyd o drosglwyddo i gynllun pensiwn personol.
Mae AS Aberafan, Stephen Kinnock wedi galw i'r cyfnod gael ei ymestyn yn dilyn cyngor ariannol gwael gan rai cwmnïau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2017