Cwmnïau i atal rhoi cyngor i weithwyr dur Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae chwech o gwmnïau ariannol wedi cytuno i roi'r gorau i roi cyngor pensiwn i weithwyr dur Port Talbot.
Roedd yr Awdurdod Rheoli Ariannol wedi bod yn ymchwilio i 17 o gwmnïau ar ôl i weithwyr Tata ddweud eu bod wedi derbyn cyngor gwael wrth geisio trosglwyddo eu harian o Gynllun Pensiwn Dur Prydain.
Mae gan tua 130,000 o aelodau tan 22 Rhagfyr i wneud penderfyniad am eu trefniadau pensiwn.
Mae nifer o weithwyr yn dweud iddynt dderbyn cyngor camarweiniol gan gwmnïau ariannol wrth geisio gwneud penderfyniad.
Fe wnaeth rhaglen Money Box ar BBC Radio 4 ddatgelu fod chwech o'r 17 o gwmnïau dan ymchwiliad nawr wedi cytuno i roi'r gorau i roi cyngor.
Dywed y rhaglen fod Awdurdod Rheoli Ariannol yn parhau i ymchwilio i 11 o gwmnïau eraill sy'n parhau i weithredu yn Port Talbot.
Mae grwpiau cymorth wedi eu sefydlu i helpu'r rhai sydd wedi cael cyngor camarweiniol.
Credir bod tua 30,000 o weithwyr yn parhau heb wneud penderfynaid ynglŷn â beth i wneud gyda'u pensiynau.
Pe na bai nhw'n yn dod i benderfyniad, yna bydd eu pensiynau yn cael eu rhoi dan drefniadau gwahanol i'r rhai presennol - trefniadau a allai fod yn llai deniadol.