Sŵ Borth ddim am ailagor ar ôl methu cael trwydded

  • Cyhoeddwyd
Wild Animal Kingdom

Fydd Sŵ Borth ddim yn ailagor dros y penwythnos, wedi i'r ganolfan fethu â chael trwydded ddrylliau gan Heddlu Dyfed Powys.

Roedd perchnogion y sŵ wedi dweud eu bod yn gobeithio gallu agor eu drysau unwaith eto ddydd Sadwrn, ar ôl bod ar gau ers dros fis.

Daeth hynny yn dilyn diflaniad lyncs o ganolfan Wild Animal Kingdom, ac fe gafodd ei difa'n ddiweddarach yn dilyn methiant yn yr ymdrechion i'w dal.

Yn ddiweddarach daeth i'r amlwg fod ail lyncs wedi marw, ac mae Cyngor Ceredigion yn cynnal ymchwiliad i'r mater.

Mewn neges ar eu tudalen Facebook dywedodd y ganolfan eu bod wedi bod yn cynnal "gwaith cynnal a chadw angenrheidiol" tra'u bod nhw ar gau.

Ffynhonnell y llun, SŴ BORTH

Roedd tîm o archwilwyr hefyd wedi bod o gwmpas ac wedi rhoi "rhestr hir o bethau oedd angen eu gwella" iddyn nhw, ac fe ychwanegon nhw eu bod nhw'n bwriadu cynnal rhagor o hyfforddiant i'w staff.

Ond fyddan nhw dal ddim yn gallu ailagor am y tro, a hynny wedi iddyn nhw fethu yn eu hymgais i gael trwydded ddrylliau.

Mae'r sŵ eisoes wedi cael eu gwahardd gan Gyngor Ceredigion rhag cadw rhai mathau o anifeiliaid gwyllt.