Stephen Crabb 'ddim wedi aflonyddu' ar ferch ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad gan y blaid Geidwadol wedi cael cyn-ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn ddieuog o dorri rheolau yn dilyn ymchwiliad i honiadau o ymddygiad amhriodol.
Roedd yna adroddiadau bod Mr Crabb wedi cyfaddef anfon negeseuon testun o natur rywiol i ferch bedair ar bymtheg oed.
Fe ddaeth y blaid Geidwadol i'r casgliad nad oedd ei ymddygiad yn cyrraedd y safonau disgwyliedig, ond nad oedd wedi aflonyddu ar y ferch.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid bod "cadeirydd y blaid wedi atgoffa Mr Crabb o'r angen i lynu wrth ysbryd a'r côd ymddygiad i'r llythyren bob amser. Roedd ef yn derbyn hyn yn ddiamod ac mae wedi ymddiheuro yn llawn."
Roedd yr AS ar gyfer Preseli Penfro, sydd yn ŵr briod, yn Ysgrifennydd Cymru rhwng 2014 a 2016 ac yn un o nifer o ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Geidwadol yn Brydeinig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2016