Cais cynllunio ar gyfer gorsaf bŵer nwy ger Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bydd cais newydd yn cael ei gyflwyno i adeiladu gorsaf bŵer nwy yn ardal Felindre ger Abertawe.
Dywedodd Abergelli Power y byddai'r pwerdy i'r gogledd o'r M4 yn cynhyrchu 299 MW o drydan, digon i gyflenwi 150,000 o gartrefi.
Yn ôl y cwmni, byddai'r safle'n gallu cynhyrchu trydan ar fyr rybudd i'r National Grid ar gyfnodau pan fo galw mawr.
Mae'r datblygwyr yn rhagweld y byddai'r cynllun yn creu 15 o swyddi llawn amser, ac y byddai 150 yn cael eu cyflogi yn ystod y cyfnod adeiladu o ddwy flynedd.
Cynllun tebyg yn 2014
Cafodd cynllun tebyg ei gyflwyno yn 2014, gydag ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal.
Ond yn 2015, gwnaed penderfyniad i beidio bwrw 'mlaen â'r cynllun gwreiddiol oherwydd "amgylchiadau'r farchnad."
Dywedodd y cwmni y bydd cyfnod ymgynghori ar y prosiect diweddaraf yn ystod mis Chwefror.
Pe bai'r cais cynllunio yn llwyddiannus, gobaith y cwmni yw y byddai'r pwerdy yn weithredol erbyn 2022.
Oherwydd mai'r bwriad yw cynhyrchu hyd at 299 MW o drydan bob blwyddyn fe fyddai'r prosiect angen sêl bendith Ysgrifennydd Ynni llywodraeth y DU.