Haneru lefel budreddi Blaenau Gwent mewn pum mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Sbwriel

Mae cwynion am achosion o fudreddi sy'n cael eu hachosi gan sbwriel a baw ci wedi haneru ym Mlaenau Gwent dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl adroddiad.

Mae'r cyngor wedi bod yn defnyddio cwmni preifat i ddirwyo pobl mewn ymdrech i wella ei ddelwedd.

Daw hyn wedi i astudiaethau gan Cadwch Gymru'n Daclus ddweud fod rhai o strydoedd mwyaf budur Cymru ym Mlaenau Gwent.

Cafodd dros 8,600 o rybuddion dirwy eu rhoi yn y cyfnod o bum mlynedd, y rhan fwyaf am adael sbwriel.

Hefyd fe lwyddodd y cyngor i wneud elw am y tro cyntaf yn 2016-17, gyda mwy o arian yn cael ei godi gan ddirwyon nac yn cael ei wario ar eu casglu.

Ffynhonnell y llun, Geograph / Robin Drayton

Fe fydd pwyllgor amgylcheddol y cyngor yn trafod casgliadau'r adroddiad ddydd Iau.

"Dros y pum mlynedd diwethaf mae arolygon blynyddol gan Cadw Cymru'n Daclus wedi nodi mai Blaenau Gwent sydd â rhai o'r strydoedd mwyaf budur yng Nghymru," meddai'r adroddiad.

"Mae cadw strydoedd yn lan yn gyson yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth gan gynghorwyr a gan yr etholwyr."

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod y polisi o roi dirwyon yn y fan a'r lle yn "parhau i sicrhau ffordd cost-niwtral o fynd i'r afael â'r math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n effeithio ar lendid ein strydoedd."

Fe wnaeth cwynion ynglŷn â glendid strydoedd ostwng 46% yn 2016-17 o'i gymharu â 2012-13, ar ôl i'r polisi newydd ddod i rym.

Fe wnaeth cwynion am faw cŵn ostwng 70% dros yr un cyfnod.