Ffordd brysur Blaenau'r Cymoedd ar gau am y penwythnos
- Cyhoeddwyd
Fe fydd darn pedair milltir o Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, ar gau i'r ddau gyfeiriad dros y penwythnos er mwyn gwneud gwaith i uwchraddio'r lôn.
Dyma'r rhan ddiweddaraf o gynllun gwerth £800m i wella'r ffordd brysur.
Fe fydd y darn rhwng Glyn Ebwy a Bryn-mawr ym Mlaenau Gwent yn cau am 20:30 nos Wener ac yn ailagor fore Llun am 06:00.
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd llwybr 17 milltir drwy Aber-bîg ac Abertyleri.
Mae peirianwyr yn gosod llwybr troed ger Bryn-mawr fel rhan o gynllun i droi'r lôn yn ffordd ddeuol.
Fe allai cau'r ffordd effeithio ar gefnogwyr pêl-droed Abertawe, fydd yn teithio i weld eu tîm yn herio Wolverhampton Wanderers yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.
Mae rhan ddiweddaraf y gwaith yn costio tua £220m, ac yn rhan o gynllun 20 mlynedd ar gyfer y ffordd sy'n cysylltu Abertawe gyda phriffordd yr A40 yn Y Fenni.
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r ffordd fel "gwythïen hanfodol i'r rhwydwaith drafnidiaeth a'r prif gyswllt rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr".
Ychwanegon nhw y bydd y gwelliannau'n datblygu diogelwch a lleihau amseroedd teithio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2017