Disgwyl sêl bendith i 350 o fflatiau myfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i gynghorwyr gymeradwyo cais i godi 350 o fflatiau newydd ar gyfer myfyrwyr yng Nghaerdydd.
Bwriad cwmni Mederco yw codi'r fflatiau stiwdio o fewn pum bloc tri llawr - yn ogystal â chanolfan gymunedol a chlwb bocsio - ar dir oddi ar Heol Mynachdy.
Mae trigolion a gwleidyddion wedi gwrthwynebu'r hyn maen nhw'n ei ddisgrifio yn "orddatblygu dybryd" ar y safle lle roedd glo yn arfer cael ei storio.
Ond mae swyddogion cynllunio yn argymell i gynghorwyr ganiatáu'r cais, gydag amodau a chytundeb cyfreithiol.
Yn ymateb i'r cynlluniau, dywedodd AS Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin: "Dyma'r trydydd cais cynllunio i ailddatblygu'r hen storfa lo mewn 10 mlynedd.
"Pan roddwyd caniatâd i'r cais blaenorol am 249 o fflatiau myfyrwyr yn 2012 roedd yna ddicter a gelyniaeth ymhlith trigolion oedd yn teimlo fel dieithriad o fewn eu cymuned eu hunain.
"Mae'n anochel bod hynny wedi gwaethygu oherwydd y cynnydd graddol yn nifer yr unedau o fewn y cynllun, ac oherwydd hynny mae gwrthwynebiad unfrydol i'r datblygiad mewn cyfarfodydd ac ar garreg y drws."
'Dwsinau o gynlluniau tebyg'
Ychwanegodd Ms McMorrin: "Mae'n anodd cytuno bod angen mawr am lety myfyrwyr yn yr ardal pan mae dwsinau o gynlluniau tebyg yng nghanol y ddinas."
Mae AC Gogledd Caerdydd Julie Morgan yn annog y pwyllgor cynllunio i ymweld â'r safle er mwyn deall "be fydd effaith y datblygiad arfaethedig ar y gymuned leol".
Wrth argymell i'r pwyllgor cynllunio gymeradwyo'r cynlluniau ddydd Mercher, mae'r adroddiad yn dweud y byddai'r cais yn ailddatblygu safle brown ac yn darparu nifer sylweddol o gartrefi ar gyfer myfyrwyr.
Mae hefyd yn dweud bod hanes diweddar o adael sbwriel yn anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y safle.
Mae'n ychwanegu y byddai'r ganolfan gymunedol a'r clwb bocsio yn "ychwanegiad positif iawn i'r ardal".