6,000 o bobl â haint hepatitis C yng Nghymru heb wybod

  • Cyhoeddwyd
Profi gwaedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae profion gwaed yn ffordd o weld os ydy rhywun yn byw â firws hepatitis C

Dydy hanner y 12,000 o bobl sy'n byw â hepatitis C yng Nghymru ddim yn gwybod bod ganddyn nhw'r haint, yn ôl elusen.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Hepatitis C bod nifer o bobl ddim yn ymwybodol bod rhannu rasel eillio yn cynyddu'r risg o ddal y firws.

Mae gan Gymru nod o sicrhau nad yw'r haint yn risg mawr i iechyd cyhoeddus erbyn 2030.

Dywedodd un o feddygon Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai'r rheiny sydd â risg o'i gael "ystyried chwilio am gyngor a phrofion".

Risg eitemau yn y cartref

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £12m tuag at gost cyfres newydd o feddyginiaethau gwrthfirysol sy'n dda am gael gwared â'r firws pan fo cleifion eisoes wedi'u heintio.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Hepatitis C, mae pobl yn gwybod bod gan ddefnyddwyr cyffuriau risg o ddal y firws, ond dyw'r cyhoedd ddim yn ymwybodol bod rhannu eitemau yn y cartref fel brwsh dannedd neu glipiau gwallt hefyd yn cynyddu'r tebygolrwydd.

"Mae triniaethau ar gyfer hepatitis C ar gael ac maen nhw'n gallu cael gwared â'r firws mewn tua 50-60% o'r achosion sy'n cael eu trin," meddai Dr Christopher Williams, epidemiolegydd ymgynghorol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Hyd yn oed os nad yw'r driniaeth yn cael gwared â'r firws, fe allai arafu'r llid a'r niwed i'r iau."

Bydd yr ymddiriedolaeth yng nghanolfan siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn esbonio sut mae modd cael triniaeth a phrofion.