Galwadau ambiwlans 999 diangen yn gostwng 1,200

  • Cyhoeddwyd
ambiwlans
Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg yn 2017 roedd 10 o bobl yn gyfrifol am dros 3,000 o holl alwadau brys y Gwasanaeth Ambiwlans

Mae ymdrechion i fynd i'r afael â phobl sy'n galw'r gwasanaeth brys 999 yn aml wedi arwain at ostyngiad o 1,200 mewn galwadau diangen, yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans.

Mae galwyr cyson yn cael eu hystyried yn broblem pan maen nhw'n ffonio 999 mwy na phum gwaith mewn mis, neu 12 gwaith mewn tri mis. Yn aml, mae'r galwadau rheiny am faterion amhriodol.

Yn 2017, fe alwodd un person 999 bron i 400 o weithiau.

Yn yr un flwyddyn, roedd 10 person yn gyfrifol am 3,284 o gyfanswm holl alwadau'r gwasanaeth.

Ond nawr, mae cyfres o newidiadau wedi arwain at ostyngiad yn nifer y galwadau diangen, gan gynnwys cyfeirio rhai galwadau at barafeddyg neu at nyrs dros y ffôn.

Cyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno bedair blynedd yn ôl, fe fyddai'r gwasanaeth yn anfon ambiwlans at bob person oedd yn galw, dim ots sawl gwaith roedden nhw wedi ffonio.

Ond yn ôl Robin Patterson, sy'n Arweinydd Galwyr Cyson y Gwasanaeth Ambiwlans, mae'r newidiadau maen nhw wedi eu cyflwyno wedi arwain at rai yn galw'n llai aml.

"O'r blaen, fe fyddai claf yn ffonio 999, ac fe fydden ni'n anfon ambiwlans cyn gynted ag y byddai un ar gael at yr unigolyn hwnnw," meddai.

Ambiwlansys

"Roedd hi'n eitha' clir fod yna broblem ac roedden ni'n gallu gweld faint o amser y byddai'n cymryd i'n criwiau ambiwlans ddelio â'r galwadau rheiny.

"Felly fe benderfynon ni edrych o'r newydd ar beth oedd y tu ôl i benderfyniad yr unigolyn i alw 999 ac a fyddai meddygon teulu, yr heddlu neu ryw wasanaeth arall yn gallu'n helpu ni i ddatrys y sefyllfa."

Dywedodd Mr Patterson fod galwadau gan alwyr cyson nawr yn cael eu cyfeirio at barafeddyg neu nyrs yn hytrach na swyddog galwadau.

Yn amlach na pheidio, meddai, mae'r galwyr yma'n gallu cael eu cyfeirio at wasanaethau eraill allai fynd i'r afael â'r hyn sy'n eu cymell i ffonio yn y lle cyntaf.

O ganlyniad, penderfynwyd peidio ag anfon ambiwlans dros 1,215 o weithiau at alwyr cyson.