Cairns: 'Dim arian penodol' i gynnig morlyn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi taflu dŵr oer ar gyhoeddiad ddydd Mercher bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig "buddsoddiad ychwanegol sylweddol" i gynllun morlyn Bae Abertawe.
Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones yrru llythyr i Theresa May yn cynnig "talu rhywfaint o gostau cyfalaf" y cynllun.
Yn ystod ymweliad â Phrifysgol Abertawe dywedodd Alun Cairns: "Does dim arian yn cael ei gynnig yn benodol a does dim cysylltiad wedi bod gyda swyddogion."
Mewn ymateb i honiad y datblygwyr Tidal Lagoon Power bod cynnig Llywodraeth Cymru yn gam ymlaen arwyddocaol, dywedodd Mr Cairns bod y datblygwyr "yn gofalu am eu buddsoddiad".
"Maen nhw wirioneddol am i'r cynllun gael ei wireddu oherwydd, yn naturiol, fe fydden nhw'n gwneud llawer o arian ohono."
Gwerth am arian
Ychwanegodd: "Rwy'n deall pam y byddai'r datblygwyr yn dweud hynny.
"Fy rôl i, a rôl Prif Weinidog Cymru, yw gofalu am arian trethdalwyr.
"Ddylien ni ddim buddsoddi mewn cynllun sydd ddim yn rhoi gwerth am arian i drethdalwyr oherwydd yn y pen draw fe fyddai cynllun drudfawr nad sy'n rhoi gwerth am arian yn achosi prisiau trydan uwch."
Mynnodd Mr Cairns ei fod yn awyddus i'r cynllun gael ei wireddu a'i fod wedi trafod y ffigyrau ariannol er mwyn ceisio sicrhau bod hynny'n digwydd.
Mae ffynonellau o fewn Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cynnig i Lywodraeth y DU yn sôn am fuddsoddi degau o filiynau o bunnau.
Ond mae ffynonellau â chysylltiad â'r cynllun ei hun wedi dweud wrth BBC Cymru bod y ffigwr rhwng £100m a £250m.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2017