Cynnig buddsoddiad 'sylweddol' i forlyn Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gobaith Carwyn Jones yw y gallai'r cynllun "symud ymlaen" gyda buddsoddiad

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig "buddsoddiad ychwanegol sylweddol" i gynllun morlyn Bae Abertawe, mewn ymdrech i annog Llywodraeth y DU i roi eu sêl bendith i'r prosiect.

Yn ôl y llywodraeth ym Mae Caerdydd, mae Carwyn Jones wedi gyrru llythyr i Theresa May yn cynnig "talu rhywfaint o gostau cyfalaf" y cynllun.

Daw hyn bron i flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad annibynnol gan gyn-weinidog ynni wnaeth argymell bwrw ymlaen â'r prosiect £1.3bn.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "edrych yn ofalus" ar sut mae newid "cymysgedd ynni" Prydain, ond bod angen "rhoi gwerth i gwsmeriaid".

Dywedodd Carwyn Jones ddydd Mercher y byddai codi "pwerdy morlyn llanw cyntaf y byd" yn "creu miloedd o swyddi o ansawdd uchel" ac yn "cyflenwi cyfran sylweddol o anghenion ynni'r DU".

"Ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn llusgo'i thraed am dros flwyddyn," meddai.

Ffynhonnell y llun, TLP
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n annog Theresa May i gymeradwyo'r cynllun am forlyn ym Mae Abertawe

"Mae hyn wedi arwain at rwystredigaeth cynyddol ymysg cymuned fusnes Cymru a pherygl cynyddol y bydd diffyg penderfyniad yn troi i fod yn benderfyniad i beidio â bwrw ymlaen.

"Nawr mae'n bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi'r gorau i'r oedi, a symud ymlaen i gytuno ar bris er mwyn i ni wireddu'r prosiect arloesol hwn."

'Gwerth i gwsmeriaid'

Ym mis Rhagfyr, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, bod y cynllun yn "ddibynnol ar y ffigyrau" ac y byddai'n rhaid iddo "ddangos gwerth am arian" cyn cael ei gymeradwyo.

"Rydym eisiau sicrhau bod gan y DU gymysgedd amrywiol, diogel a fforddiadwy o ynni, ond mae'n rhaid iddo roi gwerth i gwsmeriaid," meddai Llywodraeth y DU mewn datganiad ddydd Mercher.

"Dyna pam rydym ni'n edrych yn ofalus ar y potensial o ddefnyddio adnoddau naturiol y DU i wneud ein cymysgedd ynni yn lanach, mwy cynaliadwy, a rhoi gwerth am arian i holl gwsmeriaid a threthdalwyr y DU."

Mae'r cwmni y tu ôl i'r fenter yn honni y byddai'r cynllun yn darparu digon o drydan i 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd.