Beirniadu BT am beidio gorffen gwaith cysylltu band eang
- Cyhoeddwyd
Mae AC Ceredigion wedi cyhuddo BT o adael y gwaith o osod band eang cyflym heb ei orffen ym mhentref Derwen Gam.
Dywedodd Elin Jones fod y cwmni wedi ymddwyn mewn ffordd "anfoesol" ar ôl methu â chysylltu cwsmeriaid oedd wedi cael addewid o gysylltiad cyflym.
Dim ond 73% o dai yng Ngheredigion sydd wedi cael cysylltiad band eang cyflym yn ôl yr Aelod Cynulliad.
Dywedodd llefarydd ar ran Openreach, sydd wedi bod yn gweithredu'r cynllun i BT, mai "amser a chymhlethdodau" oedd y rheswm pam nad oedd y gwaith wedi'i gwblhau.
'Rhwystredig'
Yn Nerwen Gam mae ceblau ffibr wedi cael eu gadael yn hongian o bolion yn y pentref, yn aros i gael eu cysylltu.
Yn ôl Elin Jones mae BT wedi gadael y gwaith ar ôl i gytundeb Cyflymu Cymru ddod i ben ddiwedd Rhagfyr 2017.
"Mae'r isadeiledd wedi cael ei adeiladu, reit mewn i ganol y pentref, mae'r ffibr yma wedi tyrchu dan ddaear ond heb wneud y darn ola' sef cysylltu i mewn i'r tai," meddai.
"Mae BT wedi cerdded bant a does dim arwydd eu bod nhw'n mynd i orffen y gwaith.
"Dyw hwn ddim yn anghyffredin - yr un yw'r sefyllfa mewn nifer o gymunedau gwledig yng Ngheredigion fel Bwlchllan a Llanddeiniol."
Yn ôl Dafydd Tudur, sy'n byw yn y pentref, mae pobl Derwen-gam wedi cael eu siomi: "Hanner y gwaith sydd wedi cael ei wneud... mae'n gwneud ni'n ddig ac yn rhwystredig.
"'Dan ni'n deulu ifanc yn gwneud defnydd o'r we. Mae'n fater o gael mynediad at wasanaethau... mae'n rhwystredig bod yna ddim symud wedi bod ers dros flwyddyn."
'Ddim yn cyrraedd bob tŷ'
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Openreach: "Ers dechrau Superfast Cymru rydyn ni wastad wedi bod yn glir na fyddai'r cynllun yn cyrraedd pob tŷ, ac mae rhai ardaloedd oedd yn y cynllun gwreiddiol wedi gorfod cael eu hepgor yn anffodus oherwydd yr amser a'r cymhlethdodau fyddai angen i'w cyrraedd nhw.
"Rydyn ni'n deall rhwystredigaeth trigolion Derwen Gam sydd methu cael band eang ffibr optig ar hyn o bryd, ond mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cynllunio cam nesaf ymestyn cyrhaeddiad band eang cyflym a dibynadwy ymhellach ar draws Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gwybod fod Superfast Cymru wedi bod yn llwyddiant, gyda'r ffigyrau diweddaraf ar gyfer mis Medi yn dangos fod gan 665,000 o dai fynediad o ganlyniad, gan gynnwys 24,927 yng Ngheredigion.
"Mae adroddiad diweddaraf Ofcom hefyd wedi dangos fod gan Gymru'r argaeledd uchaf ymysg y gwledydd datganoledig.
"Rydyn ni wedi gofyn i Openreach am fanylion unrhyw strwythurau sydd wedi eu hadeiladu yn rhannol gafodd ddim eu cwblhau dan y rhaglen. Bydd y wybodaeth yma'n cael ei ystyried ynghyd â'n gwaith ar ran nesaf y ddarpariaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd9 Medi 2017
- Cyhoeddwyd3 Awst 2017