Ymosodiad Aberystwyth: Yr heddlu yn rhyddhau tri dyn
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn gafodd eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol i fyfyriwr yn dilyn ymosodiad yn Aberystwyth wedi cael eu rhyddhau gan yr heddlu.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi eu "rhyddhau dan ymchwiliad" a bod dyn 19 oed yn parhau i gael ei holi yn dilyn yr ymosodiad.
Mae Ifan Owens, 19, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau i'w ben yn dilyn ymosodiad ar Stryd Uchel yn y dref yn gynnar fore Sul.
Mae ei deulu wedi rhyddhau datganiad yn diolch am yr holl negeseuon o gymorth maen nhw wedi eu derbyn yn dilyn yr ymosodiad.
Mewn datganiad dywedodd rhieni Ifan, Gareth a Mari Owens, a'i frawd, Tomi: "Mae Ifan yn berson addfwyn a thyner, ac rydyn ni wedi cael ein calonogi gan yr holl negeseuon o gefnogaeth gan deulu, ffrindiau, yn ogystal â ffrindiau ysgol Ifan, athrawon, ffrindiau o'r brifysgol a thimau chwaraeon, sydd wedi anfon eu dymuniadau gorau ato.
"Mae Ifan yn ddifrifol wael wedi'r digwyddiad yma yn Aberystwyth.
"Y dref honno oedd unig ddewis Ifan ar gyfer mynd i'r brifysgol... doedd ganddo ddim diddordeb mewn unrhyw brifysgol arall, ac mae'n caru'r dre' yn fawr."
Mae'r gŵr 19 oed yn fyfyriwr ail-flwyddyn yn astudio Criminoleg.
Gwybodaeth bwysig i'r achos
Yn wreiddiol fe gafodd pedwar dyn - 25, 23, 20 ac 19 oed - eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio unwaith eto ar i ddyn a roddodd gymorth cyntaf i Ifan Owens gysylltu â nhw.
Dywedod DCI Anthony Evans, o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiadau a arweiniodd at Mr Owens yn cael ei anafu yn parhau ac rydyn ni'n parhau i apelio am dystion.
"Rydyn ni'n gwbod bod dyn wedi rhoi cymorth cyntaf i Mr Owens cyn i wasanaethau brys gyrraedd, ac rydyn ni'n apelio arno i gysylltu â ni achos y gallai fod ganddo wybodaeth sy'n bwysig i'r achos."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2018