Chwaraewr tenis bwrdd 11 oed yng ngharfan Gemau'r Gymanwlad

  • Cyhoeddwyd
Anna HurseyFfynhonnell y llun, Gemau'r Gymanwlad Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Anna Hursey yn chwaraewr rhif 1 Cymru dan 18 oed pan oedd ond yn 9 oed

Mae'r chwaraewr tenis bwrdd 11 oed o Gaerdydd, Anna Hursey wedi ei chynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2018 yn Gold Coast, Awstralia.

Hi yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i gynrychioli tîm tenis bwrdd hŷn Cymru ar ôl cael ei dewis pan yn 10 oed i chwarae yn erbyn Kosovo mewn gêm i sicrhau lle ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Hefyd yn y garfan mae'r seiclwr Luke Rowe er iddo dorri'i goes mewn parti stag ym mis Awst a datgan na fyddai mewn sefyllfa i gystadlu.

Am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd fe fydd deifiwr yn cynrychioli Cymru sef Aiden Heslop, sy'n 15.

Mae'r cyn-bencampwr byd yn y ras 400m dros y clwydi, Dai Greene a Seren Bundy-Davies, wnaeth gystadlu yn ras 400m Gemau Olympaidd Rio yn 2016, wedi eu cynnwys yn y garfan athletau er nad ydyn nhw wedi cofnodi'r amseroedd cymhwyso angenrheidiol.

Mae gofyn i'r ddau gyrraedd y nod erbyn 4 Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Non Stanford o fewn pedair eiliad i ennill medal efydd yng Ngemau Olympaidd 2016

Bydd cyfle i'r pencampwyr nofio Jazz Carlin a Georgia Davies geisio adennill y teitlau wnaethon nhw eu hennill yng Ngemau'r Gymanwlad 2014.

Fe fydd cyn-bencampwr treiathlon y byd Non Stanford yn cystadlu am y tro cyntaf yn y gemau ar ôl i anaf ei hatal rhag cymryd rhan yn Glasgow bedair blynedd yn ôl.

Ac fe fydd y seiclwr Olympaidd Dani King yn cynrychioli Cymru am y tro cyntaf ar ôl cystadlu dros Loegr yng Ngemau 2014. Mae hi'n gymwys i fod yng ngharfan Cymru gan mai yma mae hi'n hyfforddi erbyn hyn.

Dywedodd Anna Hursey: "Rwy'n teimlo'n browd o fy hunan ond dydw i ddim yn teimlo mor nerfus â hynny.

"Pan fydda'i [yn Awstralia] mae'n siŵr y bydda'i [yn nerfus]. 'Sa i'n fel arfer yn nerfus, Rwy'n ifanc ac fe ga'i lawer o gyfleoedd.

"Weithie chi ffili credu faint o bobl fydd yna ac phe byddai'r Frenhines yna, fe fydde hynny'n freuddwyd."

'Argoeli'n addawol'

Fe ddechreuodd chwarae tenis bwrdd yng Nghanolfan Hamdden Penlan, Abertawe, pan yn bump oed.

"Roedd fy nhad yn arfer chwarae tenis bwrdd. Fe wnes i roi cynnig ar gymnasteg a nofio, ond ro'n i'n mwynhau tennis bwrdd yn fawr iawn.

"I ddechre ro'n i'n cael hwyl yn chwarae mewn clybiau, ond yna ges i fy newis i Gymru a dechre chwarae mewn cystadleuthau ac mae'n newid mawr.

"Rwy'n chwarae o gwmpas tair awr y dydd ar ôl ysgol. Yn y dyfodol, fyswn ni'n hoffi cael medal aur yn y Gemau Olympaidd.

"Fi'n credu bod gyda fi mindset da. Gallech chi ddim roi'r gorau arni pan y'ch chi'n colli neu wnewch chi ddim gwella."

Wrth gyhoeddi enwau 93 o athletwyr sy'n ymuno â'r 31 sydd eisoes wedi eu cynnwys yn y garfan, dywedodd Cadeirydd Gemau'r Gymanwlad Cymru Helen Phillips bod y tîm yn cynnwys "pencampwyr adnabyddus... yn ogystal â thalent newydd".

"Mae safon yr athletwyr ym mhob un o'r chwaraeon yn argoeli'n addawol ar gyfer gemau llwyddiannus a phresenoldeb Cymru ar y podiwm am flynyddoedd i ddod."