Cyfyngiadau i leihau risg Ffliw Adar yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
ChickensFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae tri achos o'r Ffliw Adar wedi ei ddarganfod yn Lloegr ym mis Ionawr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau er mwyn lleihau'r risg i'r Ffliw Adar ledu.

Daeth y cyfyngiadau, ar gyfer Cymru gyfan, i rym am hanner nos.

Maen nhw'n galw am sicrhau "bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl" o fannau caeëdig lle mae adar yn cael eu cadw.

Er nad oes achos o Ffliw'r Adar wedi ei ddarganfod yng Nghymru, mae tri achos wedi'u canfod mewn adar gwyllt yn Lloegr ym mis Ionawr.

Mae Defra, sy'n gyfrifol am amaeth yn Lloegr, eisoes wedi cyflwyno mesurau tebyg yno.

Y tro diwethaf i gyfyngiadau o'r fath ddod i rym yng Nghymru oedd yn Rhagfyr 2016, gan bara am bedwar mis.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, fod tystiolaeth yn dangos bod lefel y risg mewn adar gwyllt wedi cynyddu o ganolig i uchel.

Bydd y parth atal yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill i gymryd y camau canlynol:

  • Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dwr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd;

  • Bwydo a dyfrio'ch adar mewn ardal gaeedig rhag denu adar gwyllt;

  • Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeëdig lle cedwir adar;

  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau yn lân ac yn daclus.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awdurdodau yn gofyn i bobl gadw eu llygaid ar agor am arwyddion o'r clefyd

Mae galw ar bobl sy'n cadw mwy na 500 o adar i gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol.

Bydd hynny yn cynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw'n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â'r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i fannau caeëdig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.

Dywedodd Lesley Griffiths: "Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu i ddiogelu'n diwydiant dofednod a'n masnach ryngwladol, a hefyd yr economi ehangach yng Nghymru."

Meddai'r Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop: "Rhaid i berchnogion gadw eu llygaid ar agor am arwyddion y clefyd a chynnal y lefel uchaf o fioddiogelwch.

"Rwy'n parhau i annog pawb sy'n cadw dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i'r Gofrestr Dofednod.

"Bydd hynny'n sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy'r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw adar, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid yn gyflym."