Finsbury Park: Dyn o Gaerdydd yn euog o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerdydd yrrodd fan i mewn i dorf o Fwslimiaid ger mosg yn Llundain wedi'i gael yn euog o lofruddiaeth.
Fe wnaeth Darren Osborne, 48, yrru'r fan tuag at bobl oedd yn sefyll tu allan i fosg yng ngogledd y ddinas toc wedi 00:15 ar 19 Mehefin y llynedd.
Roedd yr ardal yn brysur iawn gydag addolwyr yn mynychu gweddïau Ramadan yn Finsbury Park.
Yn Llys y Goron Woolwich cafwyd Osborne yn euog hefyd o geisio llofruddio.
Tarodd y fan yn erbyn Makram Ali, 51, fu farw yn y digwyddiad, yn ogystal â naw o bobl eraill gafodd eu hanafu.
Ychydig cyn hynny roedd Mr Ali wedi disgyn wrth gerdded ar hyd ffordd Seven Sisters, ac roedd y dorf o'i gwmpas wedi ymgynnull er mwyn ceisio'i helpu.
Roedd Osborne, o ardal Pentwyn, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddio Mr Ali ac o geisio llofruddio eraill.
Clywodd y llys dystiolaeth gan un o'r dynion gafodd ei daro gan y fan, Mohammed Geedi, ddywedodd bod Osborne wedi rhedeg tuag at y dorf "gyda'i ben i lawr, yn taflu dyrnau" wedi i'w fan ddod i stop ar ôl taro rhwystrau.
Ychwanegodd fod y gyrrwr wedi dweud: "Dwi wedi gwneud fy swydd, gallwch chi fy lladd i nawr", a'i fod yn "gwenu wrth ddweud hynny".
Cafodd Osborne ei wthio i'r llawr gan y dorf, ac roedd rhai wedi ceisio ei daro a'i gicio nes i imam lleol ymyrryd.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu fod Osborne yn wreiddiol wedi bwriadu targedu rali oedd yn digwydd yn Llundain ar 18 Mehefin, ond pan benderfynodd nad oedd hynny'n ymarferol fe ddechreuodd chwilio am fosgiau i'w targedu.
Yn ystod yr achos fe wnaeth Osborne wadu gyrru'r fan adeg yr ymosodiad, gan ddweud mai dyn o'r enw Dave oedd wrth y llyw.
Dywedodd nad oedd yn gwybod beth oedd cyfenw Dave, ond fod y ddau wedi cwrdd yn nhŷ tafarn The Pick and Shovel yn Nhrefforest fis Mawrth neu Ebrill y llynedd.
Roedd llythyr adawodd Osborne yn y fan yn awgrymu ei fod wedi gweithredu oherwydd ei ddicter gyda'r cynnydd mewn ymosodiadau terfysgol, ac oherwydd achosion o gam-drin plant yn Rotherham.
Roedd y nodyn hefyd yn feirniadol o arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, a Maer Llundain, Sadiq Khan.
Cyn yr ymosodiad cafodd Osborne ei glywed mewn tafarn ym Mhentwyn yn siarad yn ymosodol am Fwslimiaid.
Roedd hefyd wedi bod mewn cysylltiad ar y we gyda grwpiau asgell dde eithafol, gan gynnwys Britain First a'r English Defence League.
Dywedodd Jonathan Rees QC ar ran yr erlyniad "fod y dystiolaeth yn dangos fod y diffynnydd yn ceisio lladd gymaint o bobl â phosib".
Ychwanegodd fod y nodyn wedi profi cymhelliant i "geisio dylanwadu ar y llywodraeth ac i ddychryn y gymuned Fwslimaidd, a gwneud hyn er mwyn hybu daliadau ac achos gwleidyddol, crefyddol, ideolegol neu hiliol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2018