'Nifer y cynghorau lleol yng Nghymru yn rhy uchel'
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud fod 22 o awdurdodau lleol yn ormod i Gymru.
Ar raglen Sunday Politics Wales y BBC, dywedodd Alun Davies na fyddai unrhyw un bellach yn dadlau mai 22 yw'r rhif cywir - gan ychwanegu fod gormod o amser wedi ei dreulio yn trafod y pwnc a bod angen penderfyniadau sylfaenol.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael cais am sylw.
Daeth sylw Mr Davies ar ddechrau'r wythnos y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi argymhellion ar newidiadau ar gyfer y drefn bleidleisio ar gyfer cynghorau lleol.
Bydd yr argymhellion yn cynnwys rhoi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, cynlluniau peilot ar bleidleisio electroneg a newid y dydd pleidleisio i ddiwrnod arall ar wahân i ddydd Iau.
Mae'r argymhellion hefyd yn sôn am roi hawl i gynghorau ddefnyddio systemau pleidleisio cyfrannol ar gyfer etholiadau.
Mae dyfodol cynghorau lleol wedi bod yn absennol o'r agenda wleidyddol ers etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016.
Cyn yr etholiad roedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi sôn am leihau nifer y cynghorau i gyn lleied ag wyth awdurdod.
Ond cafodd y cynllun ei anghofio wrth i Lafur fethu â sicrhau mwyafrif o seddi yn y Cynulliad.
Penderfynodd gweinidogion mai'r ffordd orau ymlaen oedd ceisio dwyn perswâd ar gynghorau i gydweithio ac i rannu gwasanaethau.
"Rydym wedi trafod y pwnc yma am gyfnod rhy hir," meddai Mr Davies wrth raglen Sunday Politics Wales.
"Mae angen penderfyniadau sylfaenol am y ffordd ymlaen.
"Rydym angen mwy o atebolrwydd democrataidd, ac rydym angen cynghorau sy'n fwy pwerus nag ydynt ar hyn o bryd, [cynghorau] sy'n gallu cymryd penderfyniadau fydd o fudd i'r bobl maen nhw'n cynrychioli, ac sy'n medru llunio'r dyfodol ar gyfer eu cymunedau."
'Cryfhau atebolrwydd'
Dywedodd ei fod am i lywodraeth leol ddweud wrtho pa strwythurau fyddai orau ar gyfer y sector yn y dyfodol.
"Rwy'n amheus a fydd unrhyw un yn dod nôl a dadlau dros 22 o awdurdodau," meddai.
"Rwyf hefyd yn amau a fydd rhywun yn dweud eu bod am greu pob math o drefniadau biwrocrataidd newydd."
Ychwanegodd Mr Davies: "Rydym yn anelu at gryfhau cynghorau a chryfhau atebolrwydd lleol o ran cynghorwyr ar hyd a lled Cymru."
Ond ategodd na fyddai'r llywodraeth yn ceisio gorfodi system ar y cynghorau.
Mae rhaglen Sunday Politics Wales ar BBC One Wales ddydd Sul am 11:00.