Carwyn Jones: Honiadau newydd o gamarwain yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae'r prif weinidog yn wynebu honiadau newydd ei fod wedi camarwain y Cynulliad ynglŷn â'r hyn oedd yn ei wybod am fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

Mae Carwyn Jones wedi dweud wrth y Cynulliad nad oedd unrhyw record o gŵyn gan unrhyw weinidog ynglŷn â chamdriniaeth o ymgynghorwyr arbennig nôl yn 2014.

Ond mae AC Plaid Cymru, Adam Price yn honni fod e-bost wedi dod i'r amlwg sy'n codi pryderon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod yr hyn ddywedodd Mr Jones yn "fanwl".

Ymchwiliad annibynnol

Mae Carwyn Jones wedi gwadu o'r cychwyn cyntaf fod unrhyw bryderon wedi'u codi ynglŷn â bwlio.

Mae Mr Jones eisoes wedi cyfeirio ei hun i fod yn destun ymchwiliad annibynnol fewn i honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru, sy'n dyddio'n ôl i 2014.

Daeth yr honiadau o fwlio i'r amlwg wedi marwolaeth y cyn-weinidog, Carl Sargeant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae AC Plaid Cymru, Adam Price wedi ysgrifennu llythyr at Carwyn Jones

Mae Mr Price wedi ysgrifennu at y prif weinidog yn gofyn iddo gyfeirio ei hun unwaith eto at ymchwiliad annibynnol, dros beth yr oedd yn ei wybod ynglŷn â bwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

Mewn llythyr, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, mae Mr Price yn cyfeirio at gwestiwn a ofynnodd i Carwyn Jones ym mis Rhagfyr.

Gofynnodd Mr Price os oedd Leighton Andrews, oedd yn weinidog ar y pryd, wedi cwyno ynglŷn ag ymddygiad aelodau o staff o fewn Llywodraeth Cymru neu swyddfa'r prif weinidog.

Fe wnaeth Mr Jones ymateb yn hwyrach ym mis gan ddweud: "Does dim record a does gennai ddim cof o gwyn o'r fath."

Beirniadol

Mae ebost o 2014 yn dangos fod Mr Andrews yn anhapus nad oedd ei ymgynghorwyr yn cael mynd gydag ef i gyfarfodydd yn Llundain.

Mae cynnwys y llythyr yn dweud: "Dydw i ddim yn cofio unrhyw gwestiwn yn cael ei godi pan wnaeth [enw wedi ei dynnu] neu [enw wedi ei dynnu] ddod gyda mi i gyfarfodydd yn Llundain pan oeddwn yn y cabinet blaenorol.

"Oes 'na newid wedi bod yn y polisi? Mi faswn yn pryderu os byddwn yn credu fod [enw wedi ei dynnu] yn cael ei drin yn wahanol i unrhyw ymgynghorydd arbennig arall."

Mae Mr Andrews, sydd wedi bod yn feirniadol o Mr Jones ers marwolaeth Mr Sargeant, wedi cyhuddo'r prif weinidog o gamarwain y Cynulliad ym mis Rhagfyr "ar sawl achlysur".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ymateb y prif weinidog i'r cwestiynau yn "fanwl".