Y cyn-weinidog Carl Sargeant wedi ei ganfod yn farw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Vaughan Roderick fu'n taro golwg ar ychydig o hanes Carl Sargeant

Mae llefarydd ar ran teulu cyn-weinidog Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant wedi cyhoeddi ei fod wedi marw yn 49 oed.

Mae BBC Cymru yn deall ei fod wedi lladd ei hun.

Yr wythnos diwethaf fe gollodd ei swydd yn y cabinet fel Gweinidog Cymunedau a Phlant.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod "mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth".

Cafodd Cyfarfod Llawn y Senedd brynhawn Mawrth ei ohirio, ac mae gweddill cyfarfodydd a phwyllgorau'r Cynulliad yr wythnos hon hefyd wedi eu canslo.

'Sioc a galar'

Dywedodd teulu Mr Sargeant ei fod yn "ŵr, tad a chyfaill oedd yn cael ei garu'n fawr".

"Nid rhan o'n teulu ni yn unig oedd e. Fe oedd y glud oedd yn ein clymu ni. Fe oedd calon ein teulu ni. Roedden ni'n ei garu cymaint.

"Roedd e'n ŵr, tad, mab a ffrind mor gariadus a gofalgar.

"Rydym wedi ein llorio y tu hwnt i eiriau, ac rydym yn gwybod y bydd pawb oedd yn ei adnabod a'i garu yn rhannu ein galar.

"Rydym mewn sioc a galar. Gofynnwn am breifatrwydd ar yr adeg hon."

baneri hanner mast
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y baneri y tu allan i'r Senedd yn chwifio ar hanner y mast ddydd Mawrth yn dilyn y newyddion

Roedd Mr Sargeant wedi colli ei swydd yn y cabinet ddydd Gwener yn dilyn honiadau o "ddigwyddiadau" yn ymwneud â menywod.

Fe ddywedodd ar y pryd bod angen ymchwiliad "brys" er mwyn gallu clirio'i enw.

Mae BBC Cymru yn deall nad oedd dal yn gwybod beth oedd natur yr honiadau yn ei erbyn mor hwyr â bore Mawrth.

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod wedi'u galw am tua 11:30 yn dilyn "adroddiad fod corff dyn wedi ei ddarganfod mewn cyfeiriad yng Nghei Connah".

"Mae'r dyn wedi ei adnabod yn ffurfiol fel yr AC lleol Carl Sargeant.

"Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac mae'r teulu'n cael cefnogaeth gan yr heddlu.

"Nid yw Heddlu Gogledd Cymru yn trin ei farwolaeth fel un amheus, ac mae'r mater wedi ei gyfeirio at Grwner ei Mawrhydi.

"Gofynna'r teulu i'w preifatrwydd gael ei barchu ar yr amser anodd hwn."

'Colled fawr'

Yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth dywedodd Carwyn Jones: "Roedd Carl yn ffrind yn ogystal â chydweithiwr a dwi mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth.

"Fe wnaeth Carl gyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus Cymru a gweithiodd yn ddiflino dros y bobl roedd e'n eu cynrychioli fel Gweinidog ac Aelod Cynulliad.

"Fe fydd e'n golled fawr i'n plaid ac i'r Senedd. Mae fy nghydymdeimladau gyda'i deulu ar yr amser anodd hwn."

Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog y DU, Theresa May fod ei "chalon yn mynd allan i ffrindiau a theulu Carl Sargeant" yn dilyn y "newyddion trist".

Ychwanegodd arweinydd Plaid Lafur y DU, Jeremy Corbyn ei fod yn "newyddion ofnadwy", a'i fod yn cydymdeimlo gyda "theulu, ffrindiau a chydweithwyr Carl".

carwyn jonesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones ei fod mewn "sioc" ar ôl clywed am farwolaeth Mr Sargeant

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod "mewn sioc ac wedi tristau gyda'r newyddion ofnadwy".

Ychwanegodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones fod y newyddion wedi dod "fel sioc enfawr".

"Gwasanaethodd bobl Alun a Glannau Dyfrdwy gyda balchder a dycnwch a bu ei gyfraniad at ddatblygiad y sefydliad democrataidd hwn yn un enfawr.

"Fel arwydd o barch i Carl, ni fydd y Cynulliad yn cwrdd heddiw. Byddwn oll am fyfyrio cyn rhoi teyrnged glodwiw iddo dros y dyddiau nesaf.

Ar ran yr holl Aelodau a phawb sydd yn gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, dymunaf ddatgan fy nghydymdeimlad dwysaf â'i deulu a'i gyd-weithwyr."

Mewn teyrnged emosiynol ar BBC Radio Wales, dywedodd y cyn-weinidog Leighton Andrews fod cariad tuag at Mr Sargeant "ar draws y sbectrwm gwleidyddol".

aelodau newydd llafur
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leighton Andrews (chwith) a Carl Sargeant yn rhan o'r grŵp newydd o ACau Llafur gafod eu hethol yn 2003

"Roedd Carl yn wleidydd unigryw. Fe gyrhaeddodd y Cynulliad o lawr y ffatri," meddai.

"Fe wnaeth e dyfu lan a pharhau i fyw yn yr un stad cyngor wnaeth siapio'i wreiddiau yng Nghei Connah - roedd e dal yn rhan fawr o'r gymuned honno."

Ychwanegodd mai "mater ar gyfer diwrnod arall" oedd yr honiadau yn erbyn Mr Sargeant, a bod ddydd Mawrth yn ddiwrnod i "gofio'r Carl roedden ni'n ei 'nabod".

Disgrifiad,

Rhodri Glyn Thomas: 'Mae 'na oblygiadau i benderfyniadau'

Dywedodd cyn-AC Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas fod Mr Sargeant "yn amlwg yn teimlo ei fod wedi'i ganfod yn euog cyn iddo gael y cyfle i amddiffyn ei hun".

"Mae'n rhaid i bobl sylweddol fod 'na oblygiadau i benderfyniadau a datganiadau cyhoeddus, a hefyd y ffordd mae'r cyfryngau'n ymdrin â materion fel hyn," meddai.

Dywedodd hefyd fod Mr Sargeant "yn weinidog oedd yn angerddol am gyfiawnder cymdeithasol" a bod ei farwolaeth yn "golled fawr iawn, iawn".

'Cawr addfwyn'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae hyn yn newyddion trist tu hwnt. Mae ein Senedd wedi colli un o'i hoelion wyth, ac mae llawer ohonom wedi colli ffrind.

"Rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwys i'w deulu, ffrindiau a'i gydweithwyr ym mhlaid Lafur Cymru."

Mewn datganiad dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Fe wnaeth Carl Sargeant gyfraniad sylweddol i wleidyddiaeth Cymru, fel Aelod Cynulliad a gweinidog llywodraeth.

"Ar ran Plaid Cymru, rwyf yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Carl Sargeant

Dywedodd arweinydd UKIP Cymru, Neil Hamilton: "Roedd Carl yn gawr addfwyn a bydd colled ar ei ôl ar draws y pleidiau.

"Yn wleidyddol roedd e a fi yn anghytuno'n llwyr, ond ar lefel bersonol roedden ni'n gyfeillgar. Mae'r newyddion ofnadwy yn sioc i mi.

"Er gwaetha'r rhagdybiaeth fod rhywun yn ddieuog, fe gafodd ei ddiarddel fel gweinidog heb gael gwybod manylion yr honiadau dienw yn ei erbyn.

"Dylai marwolaeth Carl wneud i ni gyd ystyried y gost dynol o hysteria cyhoeddus ac erledigaeth gan y cyfryngau.

"Hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad i deulu Carl wedi'r drasiedi erchyll yma."

Disgrifiad,

Darran Hill: 'Sargeant yn golled enfawr ar draws y pleidiau'

Dywedodd Kirsty Williams ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ei fod yn newyddion "trist a syfrdanol".

"Roedd Carl yn ffrind da am sawl blwyddyn a bydd colled fawr ar ei ôl. Rydyn ni'n cydymdeimlo â'i deulu yn ystod y cyfnod hynod o anodd yma."

Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carl Sargeant wedi bod yn weinidog yn y llywodraeth am 10 mlynedd

Cafodd Carl Sargeant, gafodd ei eni yn Llanelwy, ei ethol yn Aelod Cynulliad Llafur dros etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy yn 2003.

Yn 2007 fe ymunodd â'r cabinet, gan ddod yn Brif Chwip y Grŵp Llafur ac yn Ddirprwy Weinidog dros Fusnes y Cynulliad.

Ers hynny mae wedi bod yn weinidog dros sawl portffolio gan gynnwys Cyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Leol, Tai ac Adfywio, ac Adnoddau Naturiol.

Cyn ei gyfnod yn y Cynulliad bu'n gweithio mewn ffatri gweithgynhyrchu cemegol, ac roedd yn archwilydd ansawdd ac amgylcheddol ac yn ddiffoddwr tân diwydiannol.

Mae'n gadael gwraig a dau o blant.