Radio Cymru 2: Barn y gwrandawyr

  • Cyhoeddwyd

Fuoch chi'n gwrando?

Roedd 06:30 ar fore Llun 29 Ionawr yn foment fawr yn hanes darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg wrth i Radio Cymru 2 daro'r tonfeddi am y tro cyntaf.

Mae gwrandawyr sydd eisiau gwrando ar y newyddion ar y Post Cyntaf yn gallu gwneud hynny yn ôl eu harfer tra bod gwrandawyr sydd eisiau 'chydig o gerddoriaeth ben bore yn gallu gwrando ar Radio Cymru 2 ar eu setiau radio digidol neu ar y we.

Ond sut ymateb gafodd y gwasanaeth newydd gan y gwrandawyr?

Disgrifiad o’r llun,

Caryl Parry Jones a Dafydd Meredydd yn cyflwyno'r sioe frecwast ar fore cyntaf gwasanaeth newydd Radio Cymru 2 ar ddydd Llun 29 Ionawr

Roedd yna drafodaeth fywiog am y gwasanaeth newydd ar Taro'r Post.

Roedd Esyllt Sears o'r Bont-faen yn teimlo fod y sianel newydd yn dangos "diffyg hyder" a bod y weledigaeth yn "fyr dymor":

"Chi'n cael cyflwynwyr sydd yn ofnadwy o brofiadol... ond does bosib, os mai'r nod yw trio cynyddu'r gynulleidfa, targedu'r bobl ifanc ar blatfformau digidol wedyn ma' angen lleisiau newydd, ieuengach efallai ar gyfer rhai rhaglenni, a 'wi jyst yn teimlo o ran bod yn hir dymor ma' angen meddwl am ddyfodol nid yn unig Radio Cymru 2 ond am Radio Cymru hefyd, a ma' angen y genhedlaeth iau 'na i diwnio mewn.

"O'n i'n synnu gymaint o gerddoriaeth Saesneg oedd yn cael ei chwarae a dwi ddim yn rhywun sy'n blismon iaith, dwi'n dwli ar gerddoriaeth Saesneg gymaint ag unrhyw un, ond dwi jyst yn teimlo bod gymaint o buzz ar hyn o bryd yn y sîn roc Gymraeg, dyle hwn 'di bod yn gyfle i ddangos hynna.

"'Wi ddim yn siwr pwy ma' nhw'n trio denu gyda'r arlwy sy' gyda nhw."

'Gwahanol i'r arferol'

Mae Tom, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn treulio cyfnod yn yr Almaen ar hyn o bryd, yn mwynhau'r cyfle i wrando ar rhywbeth gwahanol i'r arfer.

"O'n i'n licio fo, ei fod yn cynnig rhywbeth bach yn wahanol i'r arferol, rhywbeth bach yn ysgafnach... mwy o fiwsig, rhywbeth i roi ymlaen yn y cefndir a rhywbeth i fy ngwneud i chwerthin.

"Dwi'n bersonol yn ffan mawr o fiwsig Cymraeg ond d'on i ddim yn gweld problem efo fo [chwarae cerddoriaeth Saesneg] oedd yn dda cael amrywiaeth, does 'na ddim byd yn bod ar chwarae rhywfaint o gerddoriaeth Saesneg."

Disgrifiad o’r llun,

Caryl Parry Jones

Mae nifer o sylwadau wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y dydd:

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Rhian Carbis

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Rhian Carbis
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Eluned Morgan

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Eluned Morgan
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Marged Elen

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Marged Elen

Ond doedd y gwasanaeth ddim yn plesio pawb:

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 4 gan Chris

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 4 gan Chris
Disgrifiad,

Yr atebion i rai o'ch cwestiynau.

Hefyd o ddiddordeb: