'Diwrnod hanesyddol' wrth i Radio Cymru 2 ddechrau

  • Cyhoeddwyd
dafydd a caryl ar radio cymru 2
Disgrifiad o’r llun,

Rhaglen frecwast Caryl Parry Jones a Dafydd Meredydd ddechreuodd pethau ar Radio Cymru 2 fore Llun

Mae golygydd Radio Cymru, Betsan Powys, wedi dweud ei bod hi'n ddiwrnod hanesyddol yn y byd darlledu Cymraeg wrth i Radio Cymru 2 ddechrau darlledu.

Dechreuodd y gwasanaeth newydd am 06:30 heddiw, a bydd yn darlledu am ddwy awr bob bore ar radio digidol, teledu digidol, ap BBC iPlayer Radio, ac ar y we.

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall wedi dweud ei fod yn falch iawn bod y Siarter newydd wedi galluogi'r BBC i gryfhau ei gwasanaethau Cymraeg, gan sicrhau bod dewis gwirioneddol i'r gwrandawyr.

Dywedodd Rhys Evans, Pennaeth Strategaeth BBC Cymru, mai "un ffigwr cynulleidfa" fydd yn cael ei ddefnyddio i fesur faint o bobl fydd yn gwrando ar Radio Cymru a Radio Cymru 2.

'Dewis lletach'

Yn ôl Mr Evans nid ffigyrau RAJAR fydd yr unig ffordd i bwyso a mesur llwyddiant y gwasanaeth newydd sydd yn dechrau ddydd Llun.

"Mae yna ffigyrau eraill mae'n rhaid edrych arnyn nhw fel y math o werthfawrogiad mae gwasanaeth fel hwn yn ei ddenu," meddai.

"Pa fath o ffresni sydd ynghlwm â'r gwasanaeth?"

Mae Mr Evans yn un o'r bobl sydd wedi bod yn ganolog i'r broses o lansio Radio Cymru 2 ac mae'n dweud ei fod yn "garreg filltir yn hanes y Gymraeg".

Gwrando ar y gynulleidfa sy'n golygu bod y datblygiad yma wedi digwydd, meddai wrth raglen y Post Cyntaf.

"Oedden nhw eisiau arlwy oedd yn cynnig dewis lletach o adloniant, o sgwrs, o hwyl, o gerddoriaeth yn y bore. O ganlyniad i hynny ni wedi ymateb a chanlyniad hwnnw yw lansio Radio Cymru 2."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Radio Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Radio Cymru

Cytuno nad y ffigyrau gwrando yw'r "unig linyn mesur" mae Geraint Ellis, uwch ddarlithydd yn y cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.

"Mi fysa hi yn braf gwybod. Ond mewn gwirionedd dydy hon ddim yn orsaf newydd. Ryw fath o ddewis neu optout ydy o am ddwy awr yn unig.

"Felly fedrai ddallt pam bod nhw'n cael eu hystyried gyda Radio Cymru."

Dywedodd bod angen rhoi amser i'r gwasanaeth newydd ffeindio ei draed.

"Ond dw i'n meddwl os ydy rhywun yn edrych ar y cyfanswm, rhwng beth sydd yn digwydd ar y Post Cyntaf a Dafydd a Caryl yr un pryd a gweld cynnydd, fysa hynny yn beth calonogol iawn," meddai wrth y Post Cyntaf.

Yng nghylchgrawn Golwg ac ar Golwg360 mae yna gwynion wedi bod nad oes digon o gyfleoedd yn cael eu rhoi i gyflwynwyr newydd, a lleisiau cyfarwydd i'w clywed ar y gwasanaeth newydd fel Dafydd Meredydd, Caryl Parry Jones a Huw Stephens.

Ond dweud bod yna gyflwynwyr mwy arbrofol yn rhan o'r arlwy mae Mr Evans.

"Mae werth cofio bod Radio Cymru 2 yn rhan o deulu Radio Cymru o wasanaethau. Ac ar draws Radio Cymru a Radio Cymru 2 mae arbrofi a datblygu lleisiau newydd yn gwbl ganolog i genhadaeth Radio Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw cynnig dewis meddai pennaeth Radio Cymru, Betsan Powys am nad yw pawb eisiau gwrando ar yr un peth

Yn ôl Mr Ellis mae yna gyfleoedd i ddatblygu lleisiau ar Radio Cymru yn y nos ac mae angen cofio mai dim ond am ddwy awr mae'r gwasanaeth yn darlledu.

Mae'n bosib, meddai, y bydd mwy o leisiau newydd yn dod i'r fei os bydd y gwasanaeth yn ehangu.

Mae hefyd mwy o ferched nag o ddynion yn cyflwyno ar Radio Cymru 2, meddai.

"Felly mae'n neis cael y cydbwysedd yna."

Dyw hi ddim yn bosib eto dweud a fyddan nhw yn ymestyn ar yr oriau, meddai Rhys Evans.

Edrych i'r dyfodol

"O ran y dyfodol, does gen i, na neb arall fan hyn belen grisial. Ni'n atebol i'n cynulleidfaoedd ni."

Ychwanegodd y byddan nhw'n "edrych ar y dystiolaeth' cyn penderfynu, ond mae'n hyderus wrth edrych ymlaen.

"Fe fydd yn rhaid i'r gwasanaeth hwn ennill ei blwy. Fe fydd rhaid i'r babi newydd hwn brifio a datblygu.

"Ond dwi'n ffyddiog iawn o weld y gwaith caled iawn, iawn sydd wedi mynd mewn i'r gwasanaeth bod yna sail gref iawn i ddatblygu'r gwasanaeth."

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: "O heddiw ymlaen, gall gwrandawyr ledled Cymru sydd eisiau gwrando ar wasanaeth radio Cymraeg ddewis - newyddion, chwaraeon a digon o ddadansoddi gyda thîm y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru neu'r Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2.

"Mae 40 mlynedd ers i'r BBC roi ei ffydd mewn darlledu Cymraeg a lansio BBC Radio Cymru. A dyma ni unwaith eto - cam hyderus arall, yn cael ei gymryd yn 2017, gyda dewis go iawn ar yr awyr yn 2018.

"Dydy'r broses o gael BBC Radio Cymru 2 ar yr awyr heb fod yn hawdd - diolch i bawb a wnaeth helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd."