Prif Weinidog 'i ryddhau e-byst personol' ar gyfer ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Carwyn Jones yn trosglwyddo manylion o ohebiaeth ei gyfrif e-bost personol i ymchwiliadau i'w ymddygiad, medd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Daw hyn wedi i'r Ceidwadwyr alw arno i ryddhau manylion sy'n cynnwys materion yn ymwneud â Llywodraeth Cymru.

Maen nhw eisiau i'r ymchwiliad sydd wedi ei sefydlu wedi marwolaeth Carl Sargeant gael mynediad i gyfri e-bost personol y Prif Weinidog, wedi iddo gadarnhau ei fod wedi cyfnewid e-byst gyda gweinidogion, cynghorwyr a swyddogion drwy ei gyfri personol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymu: "Fel y mae'r Prif Weinidog wedi egluro droeon, bydd yn cydymffurfio'n llwyr â'r ymchwiliad, a bydd yn cyflwyno'r holl wybodaeth berthnasol i gael ei hystyried - bydd hyn yn cynnwys gohebiaeth o'i e-bost a'i offer personol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw ychydig ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru

Mae'r ymchwiliad yn edrych ar y modd y diswyddodd Mr Jones y cyn-weinidog, y diweddar Carl Sargeant ym mis Tachwedd.

Mae un arall yn ymchwilio i honiadau fod y Prif Weinidog wedi camarwain y Cynulliad ar honiadau o fwlio o fewn y llywodraeth.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y dylai'r ymchwiliadau allu gweld e-byst y Prif Weinidog, nid dim ond y rhai o gyfrifon swyddogol Llywodraeth Cymru.

Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau ei fod, ers ymgymryd â'r swydd yn 2009, "ar adegau" yn defnyddio'i e-bost personol "fel arfer wrth ddelio â materion yn ymwneud â'r dyddiadur ac ymatebion brys i'r wasg".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies yn galw ar Carwyn Jones i ryddhau ei holl e-byst personol i'r ymchwiliadau

Mewn llythyr at Mr Jones, gofynnodd Mr Davies nifer o gwestiynau am yr e-byst gan alw arno i gyhoeddi unrhyw ohebiaeth yn ymwneud â'r llywodraeth o'i gyfeiriadau personol.

Gofynnodd Mr Davies: "Yn gyntaf, ydy'r ymchwilwyr sy'n arwain yr ymchwiliadau i'w ymddygiad yn ymwybodol o'i ddefnydd o gyfeiriad e-bost personol ar gyfer gwaith y llywodraeth, ac a oes gyda nhw fynediad i'r negeseuon hyn? Os nad oes, yn enw tryloywder, wnaiff e ymrwymo i'w rhyddhau?

"Yn ail, mae angen i ni ddeall a yw e wedi derbyn neu ddosbarthu gwybodaeth gyfrinachol o'i gyfri personol, ac a ydyw wedi ei harchifo o fewn gweinydd (server) Llywodraeth Cymru.

"Mae'r e-byst hyn o bosib yn ddallbwynt (blind spot) i'r ymchwilwyr ac fe allen nhw gynnwys tystiolaeth allweddol i'w hymholiadau.

Os yw'r Prif Weinidog wedi ei ymrwymo i gyfiawnder a chynnal hyder y cyhoedd yn ei arweinyddiaeth, yna bydd yn gwneud y peth iawn a throsglwyddo'r holl ohebiaeth berthnasol o'i gyfri personol i'r ymchwilwyr."