Cytuno ar QC i ymchwiliad Carl Sargeant
- Cyhoeddwyd
Mae teulu Carl Sargeant wedi cytuno ar benodiad QC fydd yn arwain ymchwiliad annibynnol i'r modd wnaeth Prif Weinidog Cymru ymdrin â'r broses o roi'r sac i AC Alun a Glannau Dyfrdwy o Lywodraeth Cymru.
Cafwyd hyd i Mr Sargeant yn farw fis Tachwedd y llynedd, bedwar diwrnod ar ôl iddo golli ei job yn y cabinet.
Dywedodd llefarydd ar ran y teulu eu bod yn cytuno y gallai Paul Bowen QC gadeirio'r ymchwiliad.
Fe wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru gadarnhau fod Mr Bowen wedi ei benodi.
"Mae'r teulu yn gobeithio y gallai'r ymchwiliad ddechrau ar unwaith ac mae cyfreithwyr yn ceisio cytuno ar ba feysydd fydd yn rhan o'r ymchwiliad," meddai llefarydd ar ran y tuelu.
Roedd y cyn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant wedi cael ei gyfeirio at ymchwiliad gan Lafur Cymru i ymddygiad amhriodol.
Yna, ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd y Blaid Lafur na fyddan nhw'n ymchwilio i'r honiadau o ymddygiad amhriodol gan Carl Sargeant tuag at fenywod.
Fe wnaeth Mr Jones gyhoeddi y llynedd y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal i farwolaeth Mr Sargeant yn dilyn beirniadaeth a honiadau o fwlio.
Mae yna ymchwiliad arall yn cael ei gynnal hefyd i honiadau fod y Prif Weinidog wedi camarwain y Cynulliad pan ddywedodd nad oedd neb o fewn y llywodraeth wedi cwyno am fwlio.
Mae Mr Jones yn gwadu cyhuddiadau o gamarwain.