Ymchwiliad Sargeant i gychwyn 'cyn gynted â phosib'
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw fis Tachwedd y llynedd
Mae prif swyddog Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yr ymchwiliad i'r ffordd y gwnaeth Carwyn Jones ddiswyddo Carl Sargeant yn cychwyn gynted â phosib ac fe ddylai gymryd ddim mwy na phedwar mis.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan hefyd gadarnhau bod ymchwiliad ar wahân heb ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod manylion ad-drefnu'r cabinet - pan gollodd Mr Sargeant ei swydd fel Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru - wedi eu datgelu o flaen law.
Ddydd Mercher fe gytunodd teulu Mr Sargeant ar benodiad Paul Bowen QC i arwain yr ymchwiliad, fydd yn edrych i amgylchiadau'r diswyddiad fis Tachwedd diwethaf.
Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, fe ddaethpwyd o hyd i Mr Sargeant yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah, ac roedd yn ymddangos ei fod wedi lladd ei hun.
Dywedodd Ms Morgan y bydd ymchwiliad Mr Bowen yn un gwbwl annibynnol ac mae trefniadau i gadw unrhyw wybodaeth sy'n cael ei chasglu ar wahân i systemau'r llywodraeth.
Fe fydd Mr Bowen yn cael casglu tystiolaeth ar lafar yn breifat.

Paul Bowen QC fydd yn arwain yr ymchwiliad
Mewn llythyr at ACau, dywedodd mai cam nesaf Mr Bowen fydd cysylltu â theulu Mr Sargeant i drafod amodau gorchwyl yr ymchwiliad.
Fe fydd y termau hynny'n cael eu cadarnhau'n ffurfiol gan Ms Morgan.
Hefyd fe amlinellodd Ms Morgan dan ba amodau y bydd y Llywodraeth yn ad-dalu costau cyfreithiol, gan gynnwys rhai teulu Mr Sargeant.
Mewn datganiad ynglŷn â'r ymchwiliad i honiad o ddatgelu manylion yr ad-drefniad o flaen llaw, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ymchwiliad hwn yn awr wedi dod i ben a chanfu nad oes tystiolaeth bod Llywodraeth Cymru wedi rhannu o flaen llaw unrhyw wybodaeth heb ei awdurdodi, sy'n ymwneud â'r adrefnu gweinidogol diweddaraf.