Hywel Dda'n ymddiheuro i Adam Price am wybodaeth 'anghywir'

  • Cyhoeddwyd
Adam Price AC
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod nhw wedi methu'r cais am gyfarfod gyda AC Plaid Cymru, Adam Price yn gynharach yn y mis

Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro i AC Plaid Cymru, Adam Price am ryddhau gwybodaeth anghywir i Lywodraeth Cymru ynglŷn â chynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yng ngorllewin Cymru.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod nhw wedi methu'r cais am gyfarfod gyda Mr Price yn gynharach yn y mis.

Mewn ffrae danllyd ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wrth y Senedd fod Mr Price wedi anwybyddu dau gais i gwrdd gyda'r bwrdd iechyd dros gynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau.

Ond dywedodd Mr Price ei fod wedi gyrru e-bost at Hywel Dda bythefnos yn ôl i geisio trefnu cyfarfod gyda'r prif weithredwr.

'Anghywirdeb'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Roedd y cais a wnaed gan swyddogion o Grŵp Iechyd a Gofal Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn benodol ynglŷn â pha fath o drafodaethau oedd wedi digwydd ar raglen ad-drefnu gwasanaethau ysbytai.

"Fe wnaethom ddarparu dyddiadau o gyfarfodydd a cheisiadau am gyfarfodydd ar y pwnc penodol hwnnw'n unig. Ni wnaethom rannu cynnwys unrhyw e-bost na chwaith unrhyw drafodaeth.

"Rydym wedi ymddiheuro i Adam Price AC fod na anghywirdeb yn ein briff i Lywodraeth Cymru, yn benodol, cais a dderbyniwyd yn Ionawr 2018 i gynnal cyfarfod i gael diweddariad a thrafodaeth i drafod mater etholaeth, a wnaethom fethu.

"Fe fydd y cyfarfod yma yn rhoi cyfle amlwg i drafod datblygiad y strategaeth Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol, ac mae dyddiad dros dro eisoes wedi'i osod yn y dyddiadur am gyfarfod."

Dadansoddiad Tomos Livingstone, Uned Wleidyddol BBC Cymru

Drannoeth y dadlau daeth y datgymalu, ac - i raddau - yr edifaru.

Y cyhuddiad yn erbyn Adam Price oedd un o ragrith; ei fod e wedi galw am drafod brys â'r bwrdd iechyd yn gyhoeddus, tra'n breifat yn anwybyddu ymdrechion i gysylltu ag ef.

Ond erbyn heno mae'r bwrdd iechyd wedi cyfaddef nad oedden nhw wedi rhoi darlun cyflawn i Lywodraeth Cymru - roedd Mr Price wedi cysylltu wedi'r cyfan.

Y drafferth i Carwyn Jones yw bod y cyfiawnhad dros gymryd y cam dadleuol i ddefnyddio'r wybodaeth er mwyn ymosod yn wleidyddol ar Mr Price yn y Senedd ddydd Mawrth - hynny yw cyhuddo'r AC Plaid Cymru o ragrith - yn anodd nawr i amddiffyn gan fod y ffeithiau wedi newid.

Mae Mr Jones wedi dweud y bydd e'n cywiro'r record wedi i yntau siarad â'r bwrdd iechyd, ond erys dau gwestiwn - a fydd ymddiheuriad i Mr Price, ac oedd hyn oll yn ffrae oedd angen i brif weinidog dan bwysau ei gael?

Dywedodd llefarydd ar ran y prif weinidog bod dau fater ar wahân yn bodoli: "Yn gyntaf, os wnaeth Hywel Dda roi gwybodaeth anghywir yna mae hynny'n amlwg yn anffodus ac maen nhw'n iawn i ymddiheuro.

"Mae'r prif weinidog wedi mynnu esboniad llawn gan y bwrdd iechyd, a pan fydd hynny'n cyrraedd, bydd yn hapus i gywiro'r mater os bydd angen."