Sargeant: Llafur ddim am ymchwilio i honiadau menywod

  • Cyhoeddwyd
Carl SargeantFfynhonnell y llun, AFP

Mae'r blaid Lafur wedi cadarnhau na fyddan nhw'n ymchwilio i honiadau o ymddygiad amhriodol gan Carl Sargeant tuag at fenywod.

Mewn llythyr i gyfreithiwr teulu'r cyn-weinidog, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Llafur Iain McNicol fod yr ymchwiliad wedi cau.

Cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ar 3 Tachwedd, wedi i'r Prif Weinidog glywed am yr honiadau yn erbyn AC Alun a Glannau Dyfrdwy.

Dywedodd Mr McNicol fod Llafur wedi derbyn y cwyn cychwynnol ar yr un diwrnod, a'u bod "yn aros am y datganiad ffurfiol i anfon at Mr Sargeant pan ddaeth y newyddion trychinebus am ei farwolaeth".

'Ddim yn bosib'

Ychwanegodd: "Dyw hi ddim yn bosib parhau gyda'r ymchwiliad dan ein gweithdrefnau ni bellach, ac felly mae'r blaid Lafur yn ystyried yr ymchwiliad ar ben."

Dywedodd Mr McNicol fod y blaid wedi dilyn y camau cywir yr holl ffordd, ac nad oedden nhw wedi "cymryd unrhyw beth yn ganiataol am unrhywun".

Mynegodd ei gydymdeimlad â theulu a ffrindiau Mr Sargeant, gan addo y byddai'r blaid yn cydweithio'n llwyr â chwest y crwner.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iain McNicol fod y blaid Lafur wedi gweithredu'n briodol wrth ddelio â'r mater

Ychwanegodd fod Llafur "yn gwrthod unrhyw gyfrifoldeb dros gostau yn y mater hwn".

Roedd Mr Sargeant wedi'i gyhuddo o "sylw dieisiau, teimlo neu gyffwrdd amhriodol", ond dywedodd ei deulu nad oedd yn gwybod unrhyw fanylion pellach am yr honiadau pan gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd.

Dywedodd ffrind i Carl Sargeant fod y llythyr yn dangos fod yr achos yn ei erbyn wedi cael ei "daflu at ei gilydd".

Yn ôl Carwyn Jones roedd wedi clywed honiadau am "nifer o ddigwyddiadau" yn yr wythnos yn arwain at ddiswyddo Mr Sargeant.

Fe wnaeth un o ymgynghorwyr arbennig y Prif Weinidog siarad â'r menywod dan sylw cyn i'r mater gael ei gyfeirio at brif swyddfa'r blaid Lafur yn Llundain er mwyn iddyn nhw gynnal ymchwiliad.