Marwolaethau milwyr y Bannau: Dau'n pledio'n ddieuog
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi pledio'n ddieuog i berfformio dyletswydd yn esgeulus yn dilyn marwolaethau tri milwr ar gwrs hyfforddi'r SAS ym Mannau Brycheiniog.
Bu farw'r Corporal James Dunsby, yr Is-gorporal Craig Roberts a'r Is-gorporal Edward Maher yn ystod yr ymarferiad yn 2013, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
Mae swyddog a chyn-swyddog gwarantedig, sy'n cael eu hadnabod yn y llys fel 1A ac 1B, wedi'u cyhuddo o beidio â chymryd gofal rhesymol o'r milwyr.
Fe wnaeth y barnwr Jeff Blackett yng Nghanolfan Llysoedd Milwrol Colchester benderfynu y dylai'r diffynyddion aros yn anhysbys trwy gydol yr achos.
Mae'r ddau yn cael eu herlyn gan gorff annibynnol Awdurdod Erlyn y Lluoedd Arfog, ac mae disgwyl iddyn nhw wynebu achos ym mis Medi.
Bu farw'r Is-gorporal Roberts, 24 o Fae Penrhyn, a'r Is-gorporal Maher, 31 o Gaer-wynt, yn yr ymarferiad ym mis Gorffennaf 2013.
Fe wnaeth y Corporal Dunsby, 31 o Wiltshire, hefyd lewygu ar y diwrnod a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd y tri wedi dioddef o hypothermia, gan olygu nad oedd eu cyrff yn gallu rheoli tymheredd yn gywir.
Roedd Awdurdod Erlyn y Lluoedd Arfog wedi penderfynu yn erbyn cymryd camau yn erbyn y ddau i ddechrau, ond fe wnaeth aelodau o deuluoedd y dynion fu farw ofyn am ailedrych ar yr achos.
Mewn datganiad y llynedd dywedodd teulu'r Is-gorporal Roberts eu bod yn "siomedig" mai dim ond dau ddyn oedd wedi'u cyhuddo.
"Rydyn ni'n teimlo y dylai llawer mwy gael eu dwyn i gyfrif am nifer y methiannau'r diwrnod hwnnw," meddai'r teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2017