Jones yn ymddiheuro am ddefnyddio gwybodaeth anghywir

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones nad ef oedd wedi gwneud cais am y wybodaeth gan y bwrdd iechyd

Mae Carwyn Jones wedi ymddiheuro i AC Plaid Cymru, Adam Price, am ei feirniadu gan ddefnyddio gwybodaeth anghywir.

Dywedodd y prif weinidog yr wythnos ddiwethaf bod Mr Price wedi anwybyddu cais i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ad-drefnu gwasanaethau Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Fe ddywedodd y bwrdd iechyd yn ddiweddarach bod Mr Price wedi gofyn i gwrdd â'u prif weithredwr, a'u bod yn ymddiheuro bod gwybodaeth anghywir wedi'i ryddhau.

Ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr Jones ddatganiad yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn ymddiheuro i Mr Price.

Galw am ymchwiliad

Yn ymateb i ymddiheuriad y prif weinidog, dywedodd llefarydd ar ran Mr Price bod Mr Jones yn iawn i ymddiheuro, ond bod yn dal angen iddo gyfeirio ei hun at ymchwiliad annibynnol oherwydd y digwyddiad.

"Mae ein pryderon difrifol yn parhau ynglŷn â'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus annibynnol, a'r ffordd mae gwybodaeth gyfrinachol am aelodau etholedig yn cael ei alw amdano a'i ddefnyddio," meddai'r llefarydd.

"Byddwn yn parhau i fynd ar ôl y pryderon yma'n drwyadl.

"Dyw'r ymddiheuriad heddiw ddim yn cael gwared ar yr angen i'r prif weinidog gyfeirio ei hun at y cynghorwr annibynnol ar y côd gweinidogol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffrae wedi bod yn destun trafod yn y Cynulliad ers yr wythnos ddiwethaf

Dywedodd Mr Jones yn y siambr ddydd Mawrth: "Yn dilyn y ddadl yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf, rydw i eisiau ymddiheuro i'r aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr am yr ateb a roddais iddo.

"Bydd yn gwybod bod y ddau ohonom wedi derbyn ymddiheuriad gan y bwrdd iechyd ynglŷn â'r wybodaeth anghywir oedd yn destun i'n dadl.

"Rwy'n credu bod y wybodaeth wedi cael ei basio 'mlaen i fy swyddfa i gyda'r bwriad cywir, a'i fod wedi' basio 'mlaen i mi yn yr un modd."

'Ddim yn deilwng'

Ychwanegodd ei fod eisiau gwneud yn glir nad ef oedd wedi gwneud cais am y wybodaeth gan y bwrdd iechyd.

"Ond roedd yn wybodaeth y penderfynais ei ddefnyddio, ac yn edrych 'nôl dydw i ddim yn credu bod y digwyddiad yn deilwng o'r dadleuon y dylwn ni eu hyrwyddo yma yn ein Cynulliad," meddai.

"Rwy'n ymddiheuro am fy rhan yn hynny."

Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick

Un o'r cwynion ynghylch Carwyn Jones dros y misoedd diwethaf yw ei fod yn tueddu gwneud y peth iawn yn y diwedd ond ei fod yn gwneud hynny'n llawer rhy hwyr.

Roedd ei ymddiheuriad heddiw i Adam Price yn un cyflawn a gwylaidd gyda'r prif weinidog yn cyfaddef mai fe ei hun oedd wedi dewis defnyddio'r wybodaeth gyfeiliornus gan y bwrdd iechyd a bod y penderfyniad hwnnw'n anghymwys â safonau'r Cynulliad.

Mae'n ymddangos bod Mr Price yn fodlon â'r ymddiheuriad ond deallaf ei fod yn ei chael hi'n anodd deall pam na dderbyniodd ymddiheuriad anffurfiol gan Mr Jones pan ddaeth camgymeriad y bwrdd iechyd i'r amlwg wythnos yn ôl.

Mae'r gwrthbleidiau hefyd yn parhau i gwestiynu priodoldeb y cysylltiadau rhwng gweision sifil a'r bwrdd iechyd, a phenderfyniad swyddogion y bwrdd i drafod gohebiaeth gydag Aelod Cynulliad.