Adam Price yn galw am ymchwiliad i honiad o bardduo

  • Cyhoeddwyd
Adam Price a Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mr Jones ei sylwadau yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog

Mae Adam Price wedi galw ar Carwyn Jones i gyfeirio ei hun at ymchwiliad annibynnol oherwydd ei ddefnydd o wybodaeth anghywir ynglŷn â'r cyswllt a fu rhwng yr AC a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae Mr Price yn honni i amser gweision sifil gael ei gamddefnyddio yn chwilio am "faw" i daflu ato.

Fe wnaeth sylwadau Mr Jones yr wythnos diwethaf arwain at ffrae yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog, wrth i Mr Price ofyn am y bwriad i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin.

Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru am sylw.

Bwrdd iechyd yn ymddiheuro

Yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog fe wnaeth Mr Jones honni fod Mr Price wedi methu ag ymateb i geisiadau gan y bwrdd iechyd i gwrdd ag ef.

Ond cafodd hynny ei ddilyn gan honiadau fod datgelu ffeithiau o'r fath yn groes i gyfraith diogelu data.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda ymddiheuro i Mr Price am ddatgelu gwybodaeth i'r llywodraeth oedd yn wybodaeth anghywir.

Nawr, mewn llythyr at Mr Jones, mae Mr Price yn gofyn am ymddiheuriad llawn "gennych chi a gan eich llywodraeth am fy enllibio'r wythnos diwethaf".

Mae'r AC hefyd yn gofyn am ymchwiliad annibynnol o dan amodau'r cod gweinidogol i'r "defnydd anghyfreithlon o bŵer gweinidogion gan ddefnyddio gwybodaeth faleisus i geisio ei dawelu".

Mae ei lythyr yn honni fod adnoddau swyddogol wedi eu defnyddio yn anghyfreithlon i gael mynediad i "wybodaeth nad oedd yn wybodaeth gyhoeddus a hynny er mwyn diraddio fy enw a fy mhroffesiynoldeb."

Dywedodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr y gallai hyn fod yn groes i'r cod gweinidogol, a galwodd ar Mr Jones i gyfeirio ei hun i'r swyddog annibynnol, James Hamilton.

"Rwy'n credu fod hwn yn gais bwriadol i fy mhardduo," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price AC wedi galw ar Carwyn Jones i gyfeirio ei hun at James Hamilton, yn dilyn ei sylwadau yn y Senedd

Mae Mr Hamilton eisoes yn ymchwilio i weld a wnaeth Mr Jones gamarwain y Senedd ar fater gwahanol.

Dywed llythyr Mr Price: "Rwy'n deall fod y Bwrdd Iechyd wedi cael cais oddi wrth eich llywodraeth am wybodaeth benodol amdanaf i (ynghyd â dau gwestiwn arall o natur fwy cyffredinol) ar 09:54 ar 26 Ionawr.

"Roedd y cais wedi ei nodi fel un brys ac yn ymwneud â chwestiwn yr oeddwn am ei ofyn y dydd Mawrth canlynol.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud wrthyf nad oeddent yn disgwyl i'r wybodaeth yma gael ei ryddhau fel gwybodaeth gyhoeddus, ac y byddant wedi gwirio'r wybodaeth gyda fi pe baent yn gwybod hyn."

'Enllibus'

Ychwanegodd fod hyn yn groes i reolau'r gwasanaeth sifil ynglŷn â'u rôl diduedd: "Mae rheolau'r Gwasanaeth Sifil yn gwbl glir nad yw'n ganiataol i gasglu gwybodaeth niweidiol am unrhyw aelod, a all gael ei ddefnyddio i ymosod ar yr aelod dan sylw."

Mae o wedi gofyn i Mr Jones wneud datganiad brys ddydd Mawrth er mwyn cywiro'r hyn a ddywedodd.

Mae llythyr Mr Price hefyd yn honni fod datganiad i'r wasg gafodd ei ryddhau gan lefarydd ar ran y prif weinidog yn enllibus.

"Mae'r datganiad eto yn honni i fi gamarwain y cyhoedd gan nad oeddwn yn ceisio trafod gyda'r bwrdd iechyd, ac felly fy mod yn berson rhagrithiol."