Isetholiad: Llafur yn cadw Alun a Glannau Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
Isetholiad

Mae'r Blaid Lafur wedi cadw'i gafael ar sedd Alun a Dyfrdwy yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn isetholiad gafodd ei alw wedi marwolaeth y cyn weinidog, Carl Sargeant.

Enillodd ei fab, yr ymgeisydd Llafur, Jack Sargeant, gydag 11,267 o bleidleisiau.

Ymgeisydd y Ceidwadwyr, Sarah Atherton ddaeth yn ail gyda 4,722 o bleidleisiau, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd.

29.08% o etholwyr Alun a Glannau Dyfrdwy a fwrodd bleidlais yn yr isetholiad.

Yn ei araith, diolchodd Jack Sargeant, i'r holl ymgeiswyr gan ddweud bod yr isetholiad wedi ei ymladd yn yr ysbryd cywir.

Diolchodd hefyd i'w deulu a phawb sydd wedi ei gefnogi drwy'r ymgyrch: "Rwy'n hynod falch fod pobl Alun a Dyfrdwy wedi ymddiried yn Llafur unwaith eto, ac wedi ymddiried ynof i yn bersonol, felly diolch iddyn nhw, ac rwy'n edrych ymlaen i fynd lawr i Fae Caerdydd i sefyll dros bobl Alun a Glannau Dyfrdwy yn y Cynulliad Cenedlaethol.

"Yn fwy na dim, hoffwn ddiolch i bob person yma heno, pawb yng Nghymru, ar draws y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, a safodd gyda fy nheulu yn ystod yr amser anoddaf yn ein bywydau.

"Mae'n golygu cymaint i mi."

Y Canlyniad:

Y Blaid Lafur - Jack Sargeant - 11,267 - 60.7% (+14.9)

Y Ceidwadwyr - Sarah Atherton - 4,722 - 25.4% (+4.4)

Y Democratiaid Rhyddfrydol - Donna Lalek - 1,176 - 6.3% (+1.8)

Plaid Cymru - Carrie Harper - 1,059 - 5.7% (-3.3)

Y Blaid Werdd - Duncan Rees - 353 - 1.9% (-0.5)

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cyfri ei gynnal yng Ngholeg Cambria, Cei Connah

Aeth Mr Sargeant ymlaen i ddweud ei fod yn dal i ddod i dermau gyda marwolaeth ei dad.

"Dyma etholiad na ddylwn ni fod yn sefyll ynddo.

"Mae cwestiynau i'w hateb am pam ein bod yn sefyll ac ymchwiliadau'n digwydd.

"Ond mae heno am ddathlu buddugoliaeth ar ran pobl Alun a Glannau Dyfrdwy."

Ymchwiliad

Cafodd yr isetholiad ei alw yn dilyn marwolaeth Aelod Cynulliad yr etholaeth, Carl Sargeant ym mis Tachwedd 2017.

Yr wythnos cyn ei farwolaeth, collodd ei swydd fel gweinidog yng nghabinet y llywodraeth.

Mae ymchwiliad i'r ffordd y gwnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones ddiswyddo Mr Sargeant yn cael ei gynnal dan arweiniad Paul Bowen QC.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates fod y canlyniad yn wych i'r Blaid Lafur ac i Jack Sargeant

Pan ofynnwyd i'r AC Llafur Ken Skates a fyddai Jack Sargeant yn ddraenen yn ystlys Carwyn Jones, dywedodd Mr Skates y byddai Mr Sargeant yn canolbwyntio ar bobl sy'n "sefyll yn y ffordd i'r hyn sydd orau i Alun a Glannau Dyfrdwy".

"Dyna mae Jack yn canolbwyntio arno, a dyna fydd o'n ei sicrhau."