Offerynnau cerdd ar eu ffordd i ysgolion yn Y Wladfa
- Cyhoeddwyd
Mae cyflenwad o offerynnau cerdd ar eu ffordd o Gaerdydd i'r Wladfa ar gyfer plant sydd wedi gorfod ymarfer gyda theganau yn y gorffennol.
Ers dwy flynedd, mae elusen Patagonia Instrument Project wedi casglu offerynnau nad oedd pobl eu hangen mwyach o bob rhan o'r DU, ac yn codi arian i'w danfon i dde America.
Mae'r offerynnau'n cynnwys timpani, 11 trwmped, clarinét, ffliwt, telyn gwerin, sawl ffidil a fiola, a chwe chês llawn offerynnau taro bach.
Mae disgwyl iddyn nhw gyrraedd Puerto Madryn ym mis Ebrill ac fe fydd gweinyddiaeth addysg Chubut yn eu dosbarthu wedi hynny i ysgolion a grwpiau ieuenctid ar draws Y Wladfa.
Roedd angen sicrhau caniatâd Gweinyddiaeth Dramor ac Is-Gennad Yr Ariannin cyn trefnu i ddanfon yr offerynnau i Batagonia.
Dim timpani yn Chubut
Fe sefydlwyd yr elusen yn 2016 ar ôl i bedwar aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ymweld ag ardal Chubut yn ystod dathliadau 150 mlwyddiant sefydlu'r Wladfa Gymreig.
Yn ystod y daith fe ddaeth i'r amlwg bod plant yn ymarfer gyda theganau oherwydd prinder offerynnau cerdd.
Dywedodd cadeirydd yr elusen a phrif offerynnwr taro'r gerddorfa, Chris Stock: "Roedd llawer o'r ysgolion heb unrhyw fath o offeryn cerdd.
"Roedd hyd yn oed offerynwyr taro Cerddorfa Ieuenctid INTA [yn Nhrelew] ddim ond ag un drwm yr un.
"Yn yr Ysgol Gerdd Arbenigol yn Puerto Madryn roedd y darlithydd offerynnau taro Jorge Ciar yn dysgu tiwnio'r offerynnau ar degan glockenspiel a doedd dim timpani drwy Chubut yn gyfan gwbl."
Proses gymhleth
Mae'r elusen, sy'n annibynnol o'r BBC, yn gweithio gyda Chymdeithas Gymreig Puerto Madryn, staff cenhadol y DU a'r Ariannin yn Llundain a Buenos Aires, a'r Cyngor Prydeinig.
Dywedodd un o ymddiriedolwyr yr elusen a'r trwmpedwr gyda'r gerddorfa, Rob Samuel bod y broses o gydymffurfio â'r holl ofynion er mwyn cael caniatâd Llywodraeth Ariannin i ddanfon offerynnau yno wedi bod yn "gymhleth".
"Mae hynny yn rhannol oherwydd dydy hyn ddim yn rhywbeth y mae unrhyw un wedi ei wneud o'r blaen naill ochr i Fôr Iwerydd," dywedodd.
"Mae'n ymddangos y bu'n rhaid creu'r ddeddfwriaeth er mwyn i hyn lwyddo. Ond er gwaethaf problemau, wnaethon ni ddim digalonni a pheidio dod o hyd i atebion."
Mae'r elusen wedi bod mewn cysylltiad gyda grwpiau gwahanol yn y Wladfa er mwyn darganfod pa offerynnau sydd angen, ac sy'n debygol o annog mwy o blant i roi cynnig ar ddysgu, ac i greu mwy o gyfleoedd i athrawon lleol.
Mae'r elusen yn dal yn chwilio am offerynnau ac am help gyda'r costau o'u cludo 7,500 o filltiroedd ar draws y byd.
Fe fydd yr offerynnau'n rhan o lwyth llong a fydd yn gadael porthladd yn Llundain am Rio Grande ym Mrasil, cyn cael eu rhoi ar long arall i Puerto Madryn - y ffordd fwyaf rhad ac uniongyrchol o'u danfon i'r Wladfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2016