Cyrff traeth Malltraeth: Cyhoeddi enwau dau ddyn

  • Cyhoeddwyd
malltraeth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i draeth Malltraeth am 11:43 fore Gwener

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enwau'r ddau ddyn gafodd eu darganfod ar draeth ar Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd yr heddlu eu galw i draeth Malltraeth am 11:43 ddydd Gwener, wedi adroddiadau fod cyrff wedi eu darganfod ar y traeth.

Roedd Richard Adam Hollis 37 oed, a Nathan Jordan Orritt, 18, yn wreiddiol o ardal Sir Gaerhirfryn yn Lloegr.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gerwyn Thomas o adran CID Caernarfon: "Yn dilyn archwiliad post mortem ddoe, gallaf gadarnhau nad oes dim i awgrymu fod y marwolaethau yn amheus, ac fe fydd y ffeithiau'n llawn yn cael eu hadrodd i'r crwner.

"Rydym wedi bod mewn cyswllt cyson gyda theuluoedd y ddau ddyn, ac wrth i ni feddwl amdanynt yn y cyfnod anodd hwn, rydym yn gobeithio caiff eu preifatrwydd ei barchu."

Fe gadarnhaodd y Ditectif Thomas hefyd fod troed a gafodd ei ddarganfod ar draeth yn y Felinheli wythnos diwethaf yn berchen i un o'r dynion.