Llywodraeth Cymru i wahardd anifeiliaid gwyllt yn y syrcas

  • Cyhoeddwyd
llewFfynhonnell y llun, AFP

Mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn ystyried cyflwyno deddf fyddai'n gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn sioeau syrcas, ac mae Llywodraeth y DU yn ystyried gwneud yr un peth.

Cafodd cyhoeddiad y gweinidog ei groesawu gan elusen yr RSPCA, a ddywedodd ei fod yn "ddiwrnod pwysig i anifeiliaid".

Ym mis Rhagfyr fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod am sefydlu cynllun trwyddedu ar gyfer arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid yng Nghymru.

'Safonau lles uchaf'

Mae arddangosfeydd anifeiliaid symudol yn cynnwys pethau fel sioeau heboga, anifeiliaid anwes estron sy'n cael eu dangos mewn ysgolion, ceirw mewn digwyddiadau Nadolig, a syrcasau.

Dywedodd Ms Griffiths fod y drwydded oedd ar y gweill yn brawf fod gan Gymru "safonau lles anifeiliaid rhagorol".

"Mae datblygu'r cynllun trwyddedu hwn yn cryfhau'n hymrwymiad i sicrhau'r safonau lles uchaf ar gyfer pob anifail a gedwir yng Nghymru," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw bywyd anifail gwyllt mewn syrcas "ddim yn werth ei fyw" yn ôl Claire Lawson o'r RSPCA yng Nghymru

Ychwanegodd eu bod bellach yn bwriadu mynd a phethau ymhellach gyda syrcasau, gan edrych i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt yn gyfan gwbl fel sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban.

"Bydd gofyn i ni ystyried geiriad cynigion ar gyfer gwaharddiad tebyg yng Nghymru rhag iddo effeithio ar bob arddangosfa deithiol a ddaw o dan drwydded," meddai.

"Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ystyried yr opsiynau sydd ar gael i weinidogion Cymru."

'Creulon'

Dywedodd RSPCA Cymru eu bod "wrth eu bodd" fod y llywodraeth wedi dangos bwriad i wahardd yr "arferiad creulon a hen ffasiwn".

"Mae'r gwaharddiad yma'n gwneud datganiad mawr ynglŷn â pha mor bwysig mae lles anifeiliaid yn cael ei ystyried yng Nghymru, a sut mae'r wlad hon eisiau trin ein cyd-greaduriaid byw," meddai Claire Lawson o'r mudiad.

"Bydd RSPCA Cymru nawr yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r holl hapddalwyr er mwyn sicrhau fod y gwaharddiad yma'n dod yn realiti cyn gynted â phosib."

Ychwanegodd: "Nid lle anifeiliaid gwyllt yw'r syrcas. Yn syml dyw e ddim yn fywyd gwerth ei fyw - teithio cyson, llety anaddas a gorfodaeth i hyfforddi yw realiti llwm yr arfer creulon yma."