Sŵ Borth yn ailagor wythnos yn gynt na'r disgwyl
- Cyhoeddwyd
Mae sŵ yng Ngheredigion a fu'n rhaid cau wedi marwolaethau dau lyncs bedwar mis yn ôl yn ailagor ddydd Sadwrn - wythnos yn gynt na'r disgwyl.
Dywed perchnogion Borth Wild Animal Kingdom bod modd ailagor wedi nifer o welliannau ac ymdrech "aruthrol" gan eu staff.
Cafodd y sw ei wahardd rhag cadw rhai mathau o anifeiliaid peryglus wedi i ddau lyncs farw o fewn dyddiau i'w gilydd ym mis Tachwedd - y cyntaf ar ôl dianc o'r safle a chael ei ddifa ar gais yr awdurdod lleol.
Mae'r perchnogion wedi apelio yn erbyn newidiadau Cyngor Ceredigion i amodau'u trwydded ac mae disgwyl i'r achos gael ei gynnal ddiwedd Ebrill.
Roedd bwriad i ailagor ddechrau Rhagfyr ond fe wnaeth y ganolfan fethu â chael trwydded ddrylliau gan Heddlu Dyfed-Powys.
Fe brynodd Dean a Tracey Tweedy y safle 10 erw am £625,000 yn 2016.
Ar dudalen Facebook y sŵ, mae'r perchnogion yn dweud bod llawer o waith eto i'w wneud, gan rybuddio ymwelwyr i "beidio â disgwyl newidiadau gwyrthiol".
Maen nhw'n dweud bod y gwelliannau yn bennaf wedi canolbwyntio ar y llociau "er mwyn rhoi cartrefi diogel ac addas i bwrpas i'r anifeiliaid".
Bydd ffensys yn atal y cyhoedd rhai cyrraedd rhai ardaloedd o'r sw "am resymau iechyd a diogelwch".
Bu farw'r ail lyncs ar ôl cael ei mygu wrth iddi gael ei chludo o un warchodfa i'r llall.