Cymorth trethi busnes i gynlluniau ynni dŵr cymunedol
- Cyhoeddwyd
Bydd cynlluniau ynni hydro cymunedol yn derbyn cymorth gyda'u trethi busnes ar ôl i rai rybuddio bod eu dyfodol yn y fantol.
Yn dilyn newidiadau i'r ffordd mae'r taliadau'n cael eu pennu y llynedd fe welodd rai o'r prosiectau gynnydd o hyd at 900%, gyda'r sefyllfa'n cael ei ddisgrifio fel un "hurt".
Bydd cynllun grant newydd yn cynnig talu holl gost y dreth ar gyfer cynlluniau hydro sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000.
Fe ddisgrifiodd yr Ysgrifennydd Ynni Lesley Griffiths y cynnig fel un "hael".
Pris penodol
Roedd prosiectau ynni lleol wedi dadlau bod y ffordd y mae trethi busnes yn cael eu pennu wedi taro cynlluniau hydro cymunedol yn arbennig o galed, ar adeg pan eu bod nhw'n cael eu hybu gan wleidyddion o bob plaid.
Yn wahanol i'r mwyafrif o fusnesau eraill, mae'r peirianwaith sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan yn cael ei gynnwys wrth brisio faint o dreth busnes ddylen nhw fod yn talu.
Does dim ystyriaeth chwaith mai gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y busnesau yma yn fwy aml na pheidio.
Yn y cyfamser, ni all cynlluniau hydro gynyddu faint o arian maen nhw'n ei gynhyrchu mewn ymateb i'r newidiadau treth, oherwydd eu bod yn derbyn pris penodol am drydan fel rhan o fecanwaith o gymorthdaliadau gan Lywodraeth y DU.
Mae cyfraddau busnes yng Nghymru a Lloegr yn cael eu pennu gan gorff annibynnol - Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am sut maen nhw'n cael eu casglu a'r mesurau sy'n cael eu cyflwyno i helpu busnesau dalu eu ffordd.
Yn dilyn y newidiadau i'r taliadau gafodd eu cyflwyno ym mis Ebrill y llynedd, fe rybuddiodd corff Ynni Cymunedol Cymru fod y sefyllfa'n debygol o "ladd" nifer o'r prosiectau sydd wedi'u sefydlu ar draws y wlad.
Mynnodd gweinidogion ym Mae Caerdydd eu bod yn ymwybodol o'r problemau, ac maen nhw bellach wedi cyhoeddi y bydd prosiectau hydro yn gallu ceisio am grant tuag at eu trethi yn 2018/19 a gwneud cais hanesyddol hefyd ar gyfer y costau yn 2017/18.
Bydd y cynllun hefyd yn rhoi cymorth i bennu uchafswm ar y cynnydd mewn trethi busnes ar gyfer datblygiadau bychain eraill i 10% neu £1,000 lle nad oedd rhwymedigaeth flaenorol.
'Mwy o gefnogaeth'
Dywedodd Ms Griffiths y byddai'n galluogi prosiectau cymwys i gadw'r manteision mwyaf posib i'w hardal leol, fel bod modd iddyn nhw ail-fuddsoddi yn eu cymuned leol.
"Bydd ein cynllun newydd yn darparu rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer cynlluniau cymunedol ac yn rhoi cymorth tuag at eu hardrethi annomestig i brosiectau bychain eraill," meddai.
"Yr hyn sy'n bwysig yw y bydd yn rhoi mwy o gefnogaeth i ddatblygwyr pŵer dŵr yng Nghymru nac unrhyw le arall ym Mhrydain."
Daw'r gefnogaeth fel rhan o'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar Gyllideb 2018/19.