Cynnydd treth 900% yn peryglu ynni hydro cymunedol
- Cyhoeddwyd
Mae'r sector ynni cymunedol yn rhybuddio bod dyfodol sawl cynllun hydro yng Nghymru yn y fantol yn dilyn cynnydd sylweddol yn eu trethi busnes.
Bydd rhai yn gweld cynnydd yn eu taliadau o hyd at 900% yn dilyn ailasesiad diweddar.
Mae'n golygu bod bron i holl elw'r cynlluniau yn cael eu pasio i awdurdodau lleol, gyda rhai bellach yn gwneud colled o ganlyniad.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r sefyllfa, a'u bod yn ystyried cynnig cymorth penodol.
Ond cyhuddo gweinidogion o laesu dwylo mae Sefydliad Pŵer Hydro Prydain, gydag Ynni Cymunedol Cymru yn dweud bod y sefyllfa'n "lladd" prosiectau sydd wedi eu sefydlu i wella'u hardaloedd lleol.
Pam bod cynlluniau cymunedol yn dioddef?
Mae prosiectau ynni cymunedol yn aml yn fusnesau bychain sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, â'r nod o gynhyrchu incwm ar gyfer eu cymunedau.
Mae gweinidogion wedi'u hannog nhw fel rhan o strategaeth i hybu twf yn yr economi werdd yng Nghymru.
Ond mae "ffaeledd" yn y ffordd y mae cyfraddau busnes, trethi sy'n cael eu talu i gynghorau lleol, yn cael eu cyfrif yn golygu bod prosiectau ynni hydro yn benodol wedi wynebu her sylweddol yn ddiweddar.
Yn wahanol i'r mwyafrif o fusnesau eraill, mae'r peirianwaith sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan yn cael ei gynnwys wrth brisio faint o dreth busnes ddylen nhw fod yn talu.
Does dim ystyriaeth chwaith mai gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y busnesau yma yn fwy aml na pheidio chwaith.
Yn y cyfamser, ni all gynlluniau hydro gynyddu faint o arian y maen nhw'n ei gynhyrchu mewn ymateb i'r newidiadau treth, oherwydd eu bod yn derbyn pris penodol am drydan fel rhan o fecanwaith o gymorthdaliadau gan Lywodraeth y DU.
Beth yw'r effaith ar gynlluniau hydro?
Mae Gwynedd yn benodol wedi bod yn ganolfan ar gyfer prosiectau hydro cymunedol, gyda sawl un wedi dechrau yn ystod y blynyddoedd diwetha' a mwy ar droed.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru, Keith Jones, eu bod wedi gweld cynnydd o 300% yn eu trethi busnes ar gyfartaledd.
"Doedd neb wedi rhagweld hyn, doedden ni ddim hyd yn oed wedi nodi'r peth fel risg ar y cynllun busnes - y byddan nhw'n defnyddio mesur mor ddiffygiol o gael mwy o arian allan ohonon ni.
"Y siom fwya' yw bod y prosiectau yma wedi'u sefydlu er mwyn gwella cymunedau, a'u gwneud nhw'n fwy cynaliadwy - ac mae hyn yn eu lladd nhw."
Dywedodd Mr Jones bod Llywodraeth Yr Alban wedi cynnig na fydd rhaid i brosiectau ynni cymunedol dalu mwy o dreth busnes, tra bod Lloegr wedi gosod uchafswm ar y cynnydd o £600.
"Yng Nghymru, heblaw am gynllun 'Rhyddhad ar drethu busnes bach' does 'na ddim byd ar gyfer y cynlluniau canolig neu fwy o faint yma," meddai.
Faint yw'r cynnydd mewn trethi?
Mae cynllun hydro Ynni Anafon yn Abergwyngregyn wedi gweld ei dreth busnes misol yn cynyddu o tua £900 i dros £2,000 o ganlyniad i'r ailasesiad.
Fe gymrodd hi bum mlynedd i sefydlu'r prosiect, all gynhyrchu rhwng £20,000 a £40,000 y flwyddyn ar gyfer prosiectau lleol.
Mae elusen wedi ei ffurfio fel bod grwpiau ac unigolion yn gallu gwneud cais am grantiau, ond mae'r cynnydd mewn trethi yn golygu y bydd llawer llai o arian i'w ddosbarthu na'r disgwyl.
Mae'r hydro cymunedol ym Methesda gerllaw yn rhagweld y byddan nhw'n gwneud colled o ganlyniad i'r newidiadau, gyda dim arian o gwbl ar gyfer prosiectau lleol.
"Mae'n rhwystredig ofnadwy a dwi'n grac iawn am y peth," meddai Gavin Gatehouse o gynllun Abergwyngregyn.
"Y'n ni'n gweld rhan helaeth o'n helw ni yn mynd i wneud yn iawn am doriadau i gynghorau lleol.
Ac nid dyna pam y gwnaethon ni dreulio gymaint o amser ac egni yn adeiladu'r peth 'ma!"
Pwy sy'n gosod trethi busnes?
Mae cyfraddau busnes yng Nghymru a Lloegr yn cael eu pennu gan gorff annibynnol - y Valuation Office Agency.
Ond Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am sut y maen nhw'n cael eu casglu a'r mesurau sy'n cael eu cyflwyno i helpu busnesau dalu eu ffordd.
Mae Sefydliad Pŵer Hydro Prydain wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford i ofyn am gymorth.
Disgrifiodd eu prif weithredwr, Simon Hamlyn, y sefyllfa fel un "hurt" a rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru "ddelio ag e ar frys".
"Fe wnes i 'sgrifennu atyn nhw yn dweud eu bod nhw'n llaesu dwylo... A hynny fel llywodraeth gyfrifol sydd ag agenda gwyrdd," meddai.
"Mae prosiectau ynni cymunedol wir yn diodde' a cyn hir bydd y busnesau yma'n dweud y gallwn ni ddim parhau a dyna'r peth diwetha' y'n ni am ei weld."
Beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud?
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mesurau'n bodoli i helpu busnesau bach, ac yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford mae "dros £210m yn cael ei ddarparu rhwng 2017-18".
"Mae'r cynlluniau yma'n agored i unrhyw fusnes sy'n deilwng, gan gynnwys prosiectau ynni cymunedol," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol o'r hyn yr oedd pobl yn y sector hydro yn ei ddweud a bod swyddogion wrthi'n ystyried effeithiau'r ailasesiad diweddar.
"Ry'n ni'n mynd i greu cynllun 'rhyddhad ar drethu busnes' newydd ar gyfer 2018," meddai.
"Dwi'n hapus, fel rhan o hyn, i ystyried yr achos dros gynnig cymorth penodol ar gyfer prosiectau penodol, gan gynnwys cynlluniau hydro cymunedol.
"Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesiad o'r sefyllfa yn Yr Alban."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2017
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2016