Ehangu cynllun i'r disgyblion mwyaf disglair
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i Gymru wneud mwy i ymestyn y disgyblion mwyaf disglair yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams.
Dywedodd y byddai cynllun Seren, sy'n rhoi cymorth i ddisgyblion i ennill llefydd yn y prifysgolion gorau, yn cael ei ehangu i gynnwys disgyblion iau.
Mae'n dilyn pryderon gan yr arolygaeth ysgolion, Estyn, nad yw'r disgyblion mwyaf abl yn cael digon o sylw yn ysgolion Cymru.
Yng nghanlyniadau profion rhyngwladol PISA, roedd perfformiad disgyblion gorau Cymru yn is na mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.
£3m i gefnogi disgyblion
Ar ymweliad gydag Ysgol y Pant yn Llantrisant, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg y byddai £3m ar gael dros ddwy flynedd i ddatblygu dull newydd o ddarganfod a chefnogi'r dysgwyr mwyaf galluog.
Dywedodd y byddai hynny'n cynnwys diffiniad newydd o ddysgwyr mwy galluog a thalentog, a chanllawiau newydd i ysgolion.
Mae Ysgol y Pant wedi cael cydnabyddiaeth am y ffordd y mae'n nhw'n meithrin y plant mwyaf abl.
Yn ôl Ian Mitchell, pennaeth adran Gymraeg yr ysgol, maen nhw'n ceisio annog yr holl blant i gyrraedd eu huchelgais.
"I'r rhai sy'n cael eu hystyried fel y plant mwyaf galluog, 'y'n ni yn nodi pwy ydyn nhw a ceisio annog eu gallu nhw.
"Wrth gwrs mae 'na gynlluniau i wella eu safonau nhw, ceisio cael rhai i neud pethau ychwanegol.
"Mae 'na gynllun Seren lle mae'r plant mwyaf galluog yn cael cyfle i wneud pethau ychwanegol tu fas i'r dosbarth yn ogystal â beth maen nhw yn neud yn y dosbarth."
Un sydd wedi elwa o'r hyn mae'r ysgol yn gynnig yw Daniel, sy'n ddisgybl ym mlwyddyn 13.
"Mae'r ysgol yn darparu llawer o gyfleoedd i ni. Mae gennym ni bethau fel Seren, sy'n darparu anogaeth i ni ddysgu mwy am bynciau ac hefyd mae'n helpu mewn ffyrdd eraill.
"Er enghraifft dysgwr ydw i, dysgwr Cymraeg. Mae gen i gyfle i siarad am athro Cymraeg bob amser cinio am bynciau, am bethau yn y newyddion ac mae'n helpu fi i hogi fy sgiliau mewn ffordd."
'Canfod, herio ac ymestyn'
Yn ôl Kirsty Williams mae sawl adroddiad wedi dangos bod "rhaid i Gymru wneud mwy i ganfod, herio ac ymestyn ein disgyblion mwy abl".
"Mae'r buddsoddiad sy'n cael ei gyhoeddi gen i heddiw yn golygu y gallwn gyrraedd y dysgwyr hyn yn gynt o lawer", meddai.
"Mae modd inni felly sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd i gyrraedd eu potensial llawn."
Ar sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf mae'r arolygaeth ysgolion Estyn wedi tynnu sylw at wendidau yn ysgolion Cymru wrth herio'r disgyblion mwyaf galluog.
Dangosodd ganlyniadau profion PISA bod perfformiad y 10% uchaf o ddisgyblion o Gymru yn is na mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a'n is na'r cyfartaledd ar draws yr holl wledydd sy'n gwneud y profion.
Ddim yn elitaidd
Yn ôl ymchwil gan goleg UCL yn Llundain dim ond y disgyblion disgleiriaf yn Chile, Twrci a Mecsico oedd wedi cael sgoriau mathemateg a darllen is yn 2015.
O fis Medi ymlaen, fe fydd cynllun peilot yn dechrau i ymestyn rhwydwaith Seren i blant cyn eu TGAU.
Gwadodd yr Ysgrifennydd Addysg bod rhoi sylw penodol i'r disgyblion mwy abl yn elitaidd a dywedodd ei fod yn mynd law yn llaw gyda rhaglenni eraill ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol a buddsoddiad i helpu'r disgyblion tlotaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2017
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2017