Dim treth cyngor i bobl sy'n gadael gofal yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
cyngor

Bydd pobl sy'n gadael gofal yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu heithrio rhag talu treth y cyngor nes eu bod yn 25 oed, os yw cynllun gan y cyngor yn cael ei weithredu.

Ar hyn o bryd byddai'r newid yn effeithio ar 80 o bobl ac yn costio £6,000 y flwyddyn i'r awdurdod lleol.

Mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo gan y bwrdd gweithredol ac fe fydd nawr yn mynd gerbron y cyngor llawn.

Ym mis Hydref daeth cadarnhad mai Caerdydd yw'r ail gyngor yng Nghymru ar ôl Torfaen i weithredu'r un egwyddor.

'Cymorth mawr'

Disgrifiodd y cynghorydd Glynog Davies holl aelodau etholedig yr awdurdod fel "rhieni corfforaethol" y bobl ifanc, gan ddweud y dylai cefnogaeth barhau ar ôl i'r bobl ifanc adael gofal yr awdurdod.

Ychwanegodd: "Gall mynd allan i'r byd go iawn fod yn anodd ac mae llawer o bobl sy'n gadael gofal yn cael trafferth ymdopi, felly bydd y gefnogaeth hon yn gymorth mawr iddynt.

"Mae ein plant yn aml yn dychwelyd adref i gael cymorth a chyngor ar adegau. Dylem ddangos yr un tosturi tuag at bobl sy'n gadael gofal."

Ar hyn o bryd, mae holl gynghorau'r Alban yn eithrio pobl ifanc sy'n gadael gofal rhag talu treth y cyngor ynghyd â 33 o gynghorau Lloegr.

Mae'r mesur hefyd yn cael ei gefnogi gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, yn ei hadroddiad 'Uchelgeisiau Cudd'.