Gobeithio am olau gwyrdd i bier Mwmbwls
- Cyhoeddwyd
Gallai cynlluniau i adnewyddu pier Fictoraidd ger Abertawe ddechrau erbyn yr haf.
Mae perchnogion pier y Mwmbwls wedi bod eisiau adfywio'r pier ers tro, ond wrth i Gyngor Abertawe ystyried eu cais, maen nnhw'n gobeithio dechrau ym mis Mehefin.
Pan fydd y gwaith ar y pier ei hun wedi gorffen, y gobaith yw codi wal fôr a llwybr cerdded ar hyd y traeth.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys 30 o fflatiau ar y penrhyn.
Mae'r perchnogion Ameco wedi gwario mwy na £500,000 i gadw'r pier 120 oed ar agor drwy wneud gwaith atgyweirio dros dro wrth iddyn nhw chwilio am gynllun boddhaol i'r tymor hir.
Cafodd eu cynllun gwreiddiol £39m am adeiladau manwerthu ac aneddol o amgylch y pier eu cymeradwyo yn 2011, ond mae'r cynllun wedi ei addasu ers hynny.
Mae rhai'n gwrthwynebu'r cynllun newydd gan honni nad oes tystiolaeth y bydd adnoddau newydd i ymwelwyr a thwristiaid.
Ond mae swyddogion Cyngor Abertawe wedi argymell cymeradwyo'r cynllun pan fydd y cyngor yn cyfarfod ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2012