Cabinet y llywodraeth yn trafod cwtogi nifer y cynghorau
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru ar ddeall fod cabinet Llywodraeth Cymru wedi trafod cynigion i ad-drefnu strwythur llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys cwtogi nifer y cynghorau.
Mae disgwyl trafodaethau pellach dros yr wythnosau nesaf, a does dim cytundeb ffurfiol wedi digwydd.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud pryd fydd yna gyhoeddiad ar y mater, ond ym marn un ffynhonnell, fe fyddai amlinelliad o'r cynlluniau newydd o fewn wythnosau yn hytrach na misoedd.
Deellir fod trafodaeth "drylwyr" wedi bod ymysg aelodau'r cabinet, ond na fu penderfyniad o ran faint o gynghorau ddylai fod yn y dyfodol.
Yn 2016, fe roddodd Llywodraeth Cymru y gorau i gynlluniau i gwtogi nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i wyth neu naw yn dilyn gwrthwynebiad cryf gan arweinwyr y cynghorau.
'Y ffordd ymlaen'
Pan holwyd Carwyn Jones am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog, atebodd y byddai cynlluniau'n cael eu cyhoeddi "maes o law".
Ychwanegodd: "Nid yw'r sefyllfa wedi newid o safbwynt y ffordd ymlaen.
"Yr hyn mae pawb yn derbyn rwy'n siŵr yw bod rhaid i ni ystyried y ffordd ymlaen yn y modd y ma' llywodraeth leol yn gweithio.
"Does neb yn dadlau bod y strwythur presennol yn un sy'n gweithio'n dda, ac wrth gwrs ry'n ni eisiau gweithio gyda phleidiau eraill i sicrhau bod y strwythur yn fwy cynaliadwy yn y pen draw."
Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies bod un rhan bwysig o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio awdurdodau lleol yn cael ei ddileu.
Dywedodd wrth ACau na fyddai'n gorfodi cynghorau i weithio gyda'i gilydd ar sail ranbarthol.
Roedd rhagflaenydd Mr Davies, Mark Drakeford wedi dweud fod hynny'n ganolbwynt i'w gynlluniau o, ac yn rhan o'r fargen am barhau gyda 22 o awdurdodau lleol.
Fis diwethaf, dywedodd Alun Davies na fyddai unrhyw un mewn llywodraeth leol yn dadlau mai 22 oedd y nifer cywir o gynghorau, a bod y dadlau wedi para yn llawer rhy hir.
Ychwanegodd y dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro i gynghorau lleol am refru arnyn nhw yn y gorffennol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2018