Awgrym bydd llai o gyllid i ffermwyr Cymru wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae 'na awgrym y bydd yr arian sydd ar gael i amaeth yng Nghymru yn gostwng 40% ar ôl Brexit oni bai bod newidiadau i'r ffordd y mae cyllid yn cael ei ddosbarthu o San Steffan i Fae Caerdydd.
Fe rybuddiodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) y byddai'r sefyllfa'n arwain at "ddirywiad cefn gwlad".
Maen nhw mynnu bod arian i gefnogi ffermwyr yn cael ei drin yn wahanol i'r modd y mae cyllid ar gyfer meysydd eraill sydd wedi'u datganoli fel iechyd ac addysg yn cael ei bennu.
Dywedodd y Trysorlys eu bod wedi ymrwymo i gyfrannu'r un swm ac sy'n dod i amaeth Cymru o'r UE tan 2022.
Fformiwla Barnett
"Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i'r sector nac sy'n bodoli o dan y drefn CAP presennol," meddai'r llefarydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am fwy o eglurdeb o dŷ San Steffan am y dyfodol.
Asgwrn y gynnen yw'r mecanwaith sy'n cael ei ddefnyddio i drosglwyddo arian i lywodraethau datganoledig y Deyrnas Unedig.
Mae arweinwyr y diwydiant amaeth yn poeni y bydd y cymorth y maen nhw'n ei dderbyn yn destun yr hyn sy'n cael ei alw'n fformiwla Barnett ar ôl Brexit.
Mae'r fformiwla wedi cael ei ddefnyddio i bennu lefel y gwariant cyhoeddus yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am y 40 mlynedd diwethaf.
Mae unrhyw arian ychwanegol - neu doriadau - o San Steffan - yn cael ei ddosbarthu yn ôl nifer y boblogaeth ym mhob gwlad a'r pwerau sydd wedi'u datganoli iddyn nhw.
Felly pan fo Llywodraeth Prydain yn rhoi mwy o gyllid i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, er enghraifft, mae fformiwla Barnett yn cael ei ddefnyddio i gyfrif faint yn fwy y dylai Llywodraeth Cymru ei dderbyn i'w wario ar iechyd hefyd.
Ond yn hanesyddol mae'r arian sy'n cefnogi amaeth wedi'i drin ar wahân am fod hwnnw'n dod o'r Undeb Ewropeaidd.
Mae Cymru'n derbyn 9.4% o'r £3.5bn sy'n dod o Frwsel i'r Deyrnas Unedig bob blwyddyn, a hynny gyfwerth a £329m.
Yn ôl Llywodraeth Prydain fe fydd y sector amaeth yn parhau i dderbyn yr un faint o arian y mae'n ei dderbyn gan yr UE ar hyn o bryd tan 2024.
Ond os yw fformiwla Barnett yn cael ei ddefnyddio i ddosbarthu'r arian yna o goffrau'r Trysorlys yn Llundain, mae UAC yn honni y bydd y ganran sy'n dod i Gymru yn gostwng i 5.6%, sef £196m.
Mae hynny'n ostyngiad o 40%.
Wrth lansio ymgyrch newydd ar y pwnc yn Aberystwyth dydd Iau, bydd yr undeb yn galw ar y Trysorlys i ddefnyddio ffordd wahanol o ddosbarthu cyllid amaethyddol ar ôl Brexit, fel bod Cymru yn derbyn yr un swm ag y mae'n ei gael ar hyn o bryd o'r UE.
Maen nhw eisoes wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth bwyllgor o Aelodau Seneddol yn ddiweddar y byddai'n "rhaid i gyllid amaethyddol gael ei ddal mewn pot ar wahân a'i ddelio ag e mewn ffordd wahanol."
Dywedodd Is Lywydd UAC Brian Bowen wrth BBC Cymru mai nid dim ond ffermwyr fyddai'n cael eu taro gan unrhyw doriad i'r gyllideb amaethyddol.
"Mae miloedd ar filoedd o fusnesau yn dibynnu ar amaeth a fe fyddan nhw'n cael eu heffeithio hefyd. Mae angen i wleidyddion sylweddoli hynny."
"Ystyriwch y bobl sy'n byw mewn pentrefi gwledig drwy Gymru - mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yno oherwydd amaethyddiaeth."
"Mae 80% o dirwedd Cymru dan reolaeth amaethwyr. Byddai na ddim ail-fuddsoddi o gwbl a byddwch chi'n gweld dirywiad yng nghefn gwlad a bydden i'n casáu i weld hynny."
Galw am eglurder
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru er bod 18 mis ers y refferendwm dyw hi ddim yn glir faint o gyllid fydd yn dod yn ôl i Gymru.
"Rydym wedi bod yn glir o'r dechrau na ddylai Cymru golli'r un geiniog fel y cafodd ei addo, ac rydym yn parhau i ymladd i sicrhau fod cyllid yn dod yn ôl i Gymru.
"Mae cyllid o'r UE wedi ei seilio ar angen, sy'n golygu ein bod ni yn derbyn mwy na'r canran o'r boblogaeth.
"Byddai defnyddio fformiwla Barnet i gyllido ddim yn adlewyrchu anghenion Cymru."
Dywedodd llefarydd o adran y Trysorlys: "Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo yn barod i gyfrannu'r un swm ac sy'n dod i amaeth Cymru o'r UE tan 2022.
"Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i'r sector nac sy'n bodoli o dan y drefn CAP presennol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd17 Mai 2017
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018