'Byw bywyd i'r eithaf' gydag aren newydd
- Cyhoeddwyd
I un fam o'r gogledd, roedd cael trawsblaniad aren yn ferch fach yn obaith, ond dydy penderfyniadau mawr bywyd ddim wedi bod yn fêl i gyd ers hynny.
Ar Ddiwrnod Aren y Byd 2018, dyma stori Danielle Thomas o Langefni, Ynys Môn.
"Y rhwystr mwyaf oedd y cyfyng gyngor os fyswn i'n gallu cael fy mhlentyn fy hun neu beidio oherwydd y risgiau sydd ynghlwm â thrawsblaniad, a'r effeithiau hirdymor o hynny," meddai Danielle Thomas, sy'n wreiddiol o Wrecsam, ond sydd bellach wedi ymgartrefu gyda'i gŵr yn Llangefni.
Mae cael plentyn yn rhywbeth y mae hi wedi bod eisiau erioed, ac roedd hi'n ffyddiog y byddai hi'n gallu cael babi er gwaethaf y trawsblaniad.
"Er hynny, pan wnaeth fy ngŵr a minnau benderfynu dechrau teulu ryw bedair blynedd yn ôl, fe wnaeth meddyg ar y pryd ddweud na ddylen i gael babi o gwbl oherwydd bod lefel creatinine yn rhy uchel - sy'n dynodi pa mor dda mae'r aren yn gweithio," meddai.
"Roedd o'n gadarn iawn ei farn oherwydd byddai'n ormod o risg ar fy aren i gael babi yn tyfu yn fy nghroth, a byddai'r hormonau yn achosi pwysedd gwaed uchel."
Aeth cyfnod heibio wedyn lle wnaeth Danielle Thomas a Steffan, ei gŵr, ymchwilio i fabwysiadu plentyn.
"Roedd tua chwe mis wedi mynd heibio, pan wnaethon ni gwrdd â meddyg arall, a chefais apwyntiad hirfaith gydag o wrth iddo drafod fy iechyd," meddai.
"Wnaeth o weld yn y nodiadau ein bod yn bwriadu mabwysiadu, a holi pam - a phan ddysgodd o am y rheswm, wnaeth o ddweud bod o'n anghytuno, a bod o'n meddwl y byddai beichiogrwydd yn hollol bosib i ni!"
Aeth cyfnod o flwyddyn heibio, meddai, gyda newid yn ei meddyginiaeth yn ogystal â cheisio cadw'n heini er mwyn gwella ei hiechyd yn gyffredinol cyn iddi feichiogi.
"Trwy gydol y beichiogrwydd, cefais ofal cyson, gyda phrofion gwaed wythnosol, a dros 12 sgan er mwyn gwneud yn siŵr bod y babi'n tyfu ac yn datblygu," meddai Danielle.
"Mae'n annhebygol iawn y gwnawn ni fynd trwy hyn eto. Yn un peth rydyn ni wedi bod mor lwcus i gael Gethin, sy'n hogyn bach iach a hapus. Ond mae fy iechyd yn gwella'n araf bach ar ôl y beichiogrwydd a'r geni."
Hefyd o ddiddordeb:
Bywyd o'r newydd i ferch fach
Ar ôl cael ei geni gyda Congentital Nephrotic Syndrome doedd arennau Danielle Thomas yn gweithio'n iawn.
"Roedd y ddwy aren wedi methu pan gefais fy ngeni," meddai.
"Pan oeddwn i'n naw mis, ac wedi tyfu ychydig, tynnwyd fy aren chwith, oherwydd nad oedd yn gweithio o gwbl. A dim ond 13% o'r aren arall oedd yn gweithio.
"Tan oeddwn i'n saith oed, roedd fy unig aren yn ceisio gweithio gyda chymorth dialysis tan i mi gael fy nhrawsblaniad ar y 18 Ionawr, 1996."
Roedd yn gyfnod o gyffro iddi hi fel merch fach, oherwydd roedd hi'n gwybod y byddai'n rhoi bywyd ac egni o'r newydd iddi.
"Dw i mor ffodus o gael monitro agos iawn a gofal iechyd rhagorol gan y Gwasanaeth Iechyd, o'r cychwyn cyntaf," meddai.
"Mae'n rhaid i mi gael profion gwaed rheolaidd ac apwyntiadau i wirio fy iechyd a heblaw am yr haint wrin sydd fel arfer yn digwydd bob ryw 18 mis sy'n golygu arhosiad byr i'r ysbyty i adfer, mae popeth wedi bod yn dda."
Byw bywyd i'r eithaf
Ar hyn o bryd, mae Danielle Thomas yn rhedeg cyfres o hanner marathon er mwyn codi arian i elusen ac i gadw'n heini.
"Triniaeth ydy trawsblaniad, nid iachâd llwyr. Er hynny, yn arferol, dylai aren gan roddwr bara hyd at 12 mlynedd, ond dyma fi, 22 mlynedd yn ddiweddarach, gyda'r aren yn parhau i fynd yn gryf," meddai Danielle Thomas.
"Rhaid byw bywyd i'r eithaf, bod yn bositif ac yn ddiolchgar. Mae mor bwysig i ofalu am eich hun a gyda thrawsblaniad, rhaid cadw mor heini â phosib er mwyn rhoi'r cyfle gorau i chi i fyw bywyd normal."
Stori: Llinos Dafydd