Lansio ymgyrch heddwch ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched

  • Cyhoeddwyd
deiseb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iona Price, Anna Jane Evans ac Awel Irene ymhlith trefnwyr yr ymgyrch

A hithau'n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, mae grŵp o ferched o Wynedd wedi dechrau ymgyrch a deiseb newydd i geisio hyrwyddo heddwch.

Nod ymgyrch Heddwch Nain/Mamgu yw "ceisio gwireddu ymhellach ymdrechion merched a fu'n gweithio'n galed i hyrwyddo heddwch".

Bydd yn cael ei lansio yng Nghroesor ddydd Iau.

Un o sylfaenwyr yr ymgyrch yw Ifanwy Williams, sy'n 96 oed ac yn byw ym Mhorthmadog. Gallwch ddarllen mwy amdani yma.

Deiseb

Mae'r ddeiseb, sydd eisoes wedi casglu dros fil o enwau, yn coffáu deiseb debyg a gafodd ei llofnodi gan 390,000 o ferched Cymru yn 1923/4.

Cafodd y ddeiseb honno ei hanfon i ferched America i ofyn iddyn nhw ddylanwadu ar lywodraeth eu gwlad i ddod yn rhan o Gynghrair y Cenhedloedd a chyfrannu at y nod o fyd heb ryfel.

Yn 1926, fe orymdeithiodd dros 2,000 o ferched o'r gogledd i ymuno â merched o bob cwr o Brydain yn Hyde Park, Llundain i wrthwynebu erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Geiriad deiseb heddwch gafodd ei llofnodi gan 390,000 o ferched Cymru a'i hanfon i'r Unol Daleithiau yn y 1920au

Dywedodd un o'r trefnwyr, Iona Price, mai'r nod ydy "dathlu a chofio a gwireddu be oedd yn y ddeiseb ddaru merched Cymru ei hanfon i ferched America nôl yn 1924".

"Rydan ni'n tynnu am ganmlwyddiant a dydan ni ddim isho i'r llais sydd yn erfyn am heddwch fyth gael ei dawelu."

'Gweithio am fyd di-ryfel'

Dywedodd Anna Jane Evans fod hanes y ddeiseb wreiddiol wedi dod i'r golwg yn ddiweddar iawn: "Mi wnaeth merched oedd wedi colli gwŷr a thadau a brodyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf fynd ati i geisio gweithio am fyd di-ryfel a wnaethon nhw lawnsio deiseb yn 1923 a chasglu bron iawn i 400,000 o enwau o fewn chwe mis drwy fynd a fo i bob tŷ a ffarm yng Nghymru.

"Wedyn mi ddaru nhw hwylio drosodd i'r Unol Daleithiau a'i gyflwyno fo mewn cynhadledd fawr i ferched yn galw ar yr Unol Daleithiau i ymuno hefo Cynghrair y Cenhedloedd."

Mae'r merched yn gobeithio casglu 400,000 o enwau ar ddeiseb newydd a mynd â honno draw i America yn 2024.

Dod â'r ddeiseb yn ôl?

Dywedodd Awel Irene mai ni yng Nghymru gafodd y syniad o sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd: "Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig sydd yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yng Nghymru ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf."

Mae'r ymgyrchwyr hefyd yn gobeithio dod o hyd i'r ddeiseb wreiddiol, sydd, maen nhw'n credu, yn Amgueddfa y Smithsonian yn Washington, a dod â hi yn ôl i Gymru, fel y gall disgynyddion y rhai a'i harwyddodd weld enwau eu neiniau.